Gwen Lliw'r Lili

Dydd da fo i Wen lliw’r lili

(Gwen Lliw'r Lili)
Dydd da fo i Wen lliw’r lili,
Mi’th welais heddiw’n wisgi,
Yr orau rwy’n ei charu
  O ferched yr holl fyd;
Pa le mae’r addewidion
A’r cariad gynt fu rhyngom?
Mynega im, liw’r hinon,
  Fy seren teg ei phryd.

Mae’r gog yn bêr leferydd
A’i miwsig yn y maesydd,
A gwenu y mae’r gweunydd
  Dan dywydd hirddydd haf;
A’r gerdd yng nghaerau gwyrddion
A’r tir gan fwyeilch taerion
Llawenydd, pynciau llawnion,
  Y dôn hyfrydlon braf.
1: traddodiadol
2: Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747-1826

Tôn

(Gwen the Colour of the Lily)
Good day to Gwen Colour-of-the-Lily,
I saw her today so lively,
The one I love best
  Of the girls of the whole world;
Where are the promises
And the former love that was between us?
Tell me, Colour of the sunshine,
  My star, fair of face.

The cuckoo is a sweet caller
With its music in the fields,
And smiling are the moors
  Under a long summer day's weather;
With the verse in the green fields
And the land by persistent blackbirds
Joyful, full of notes,
  The delightful, lovely tune.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~