Mae llais y durtur yn ein bro

Cān I - Llais y Durtur

Haf yr efengyl, neu alwad yr Iuddewon
a chyflawnder y Cenhedloedd yn dyfod i mewn, -
"Wele y gaeaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd,
ac a aeth ymaith; clywyd llais y durtur
yn ein gwlad." (Can ii.11,12).
Mae llais y durtur
    yn ein bro,
Y Gauaf du aeth heibio, do;
  Fe gododd haul cyfiawnder gwell,
  Y storm a'r glaw aeth draw y'mhell.

Mae'r Gaua' Iuddewig wedi ffoi,
Y tymhor trist sydd wedi troi;
  Pan ddelo'r haul sydd eto 'mhell,
  Yn uwch i'r lan hi ddaw yn well.

Euphrates fawr a'i ffrydiau saith,
Fe hyllt, fe sych ei dyfroedd maith;
  Brenhinoedd hen y dwyrain draw,
  I'w gwlad E'i hun
      trwy'r nos a ddaw.

Niwl a chysgodau'r cyfnos ffowch,
Olwynion cerbyd amser trowch;
  A doed teyrnasoedd
      yr holl fyd,
  Yn eiddo'n Harglwydd
      oll eu gyd.
Thomas William 1761-1844

[Mesur: MH 8888]

The Summer of the gospel, or the call of the Jews
and the fulness of the Nations coming in, -
"See the winter has gone past, the rain has passed,
and has gone away; the voice of the turtle-dove
is heard in our land." (Song 2:11-12).
The voice of the turtle-dove is
    in our vale,
The black Winter went past, yes;
  The better sun of righteousness arose,
  The storm and the wind went far away.

The Winter of the Jews has fled,
The sad season which has turned;
  When comes the sun which is far better,
  High up it with become better.

Great Euphrates and its seven streams,
It will break, it will dry its vast waters;
  Old kinds of the yonder east,
  To His own land
      through the night shall come.

Fog and shadows of the twilight, flee ye,
Wheels of the chariot of time, turn ye;
  And let the kingdoms of the whole
      world become,
  The possession of our Lord,
      all of them together.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~