Llwyn Onn

Yn Nyffryn Llwyn Onn Draw

LLWYN ONN
Yn Nyffryn Llwyn Onn draw
  mi welais hardd feinwen
A minnau'n hamddena
  'rol byw ar y don;
Gwyn ewyn y lli
  oedd ei gwisg, a disgleirwen
A'r glasfor oedd llygaid
  Gwen harddaf Llwyn Onn.
      A ninnau'n rhodiana
        drwy'r lonydd i'r banna,
      Sibrydem i'n gilydd
        gyfrinach byd serch;
      A phan ddaeth hi'n adeg
        farwelio a'r wiwdeg,
      Roedd tannau fy nghalon
        yng ngofal y ferch.

Cyn dychwel i borthladd
  wynebwn y tonnau,
Ond hyfryd yw'r hafan
  'rol dicter y don;
Bydd melys anghofio
  her greulon y creigiau -
Un felly o'wn innau
  'rol cyrraedd Llwyn Onn.
      A thawel mordwyo
        wnaf mwyach a Gwenno
      Yn llong fach ein bwthyn
        a hi wrth y llyw;
      A hon fydd yr hafan
        ddiogel a chryno
      I'r morwr a'i Wenno
        tra byddwn ni byw.
Alaw

ASH GROVE
In yonder Valley of the Ash Grove
  I saw a beautiful maiden
I being at leisure
  after a life on the wave;
The flowing white foam
  was her raiment, and brightly shining
And sea-blue the eyes
  of the most beautiful maid of Ash Grove.
      And we were strolling
        along lanes to the peaks
      Whispering to each other
        a secret of the world of love;
      And when the moment of farewell
        came so tender,
      The fires of my heart
        cared for the girl.

Before returning to the port
  I was facing the billows,
But the harbour is pleasant
  after the anger of the wave;
It will be sweet to forget
  the angry claim of the rocks
Just as I did
  after reaching Ash Grove.
      Henceforth I will quietly
        navigate by Venus 
      In the small ship of our cottage
        with her at the helm;
      And this will be
        the safe and compact haven
      For the sailor and his Venus
        as long as we live.
tr: 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Ym Mhalas Llwyn Onn Gynt ~ Caneuon ~ Emynau ~ Lyrics ~ Interests ~ Home ~