Mae f'enw i lawr

Nid yfaf un dafn o wirodydd byth mwy

(Mae f'enw i lawr)
Nid yfaf un dafn o
    wirodydd byth mwy,
Ardystiais â'm llaw i ymwrthod a hwy,
  Os bydd y cymhelliad i yfed yn fawr,
  Atebaf, Nis gallaf, mae f'enw i lawr.

  Atebaf, Nis gallaf, mae f'enw i lawr.
  Atebaf, Nis gallaf, mae f'enw i lawr.

Peryglus yw'r ddiod i gyffwrdd â hi,
Trwy'i hyfed gwneir meddwyn
    o blentyn fel fi;
  Gan hyny ni chym'raf
      gan fychan na mawr
  Ddyferyn o wirod, mae f'enw i lawr.

Os byth yr estynir y cwpan i mi,
Gan gyfaill tra hoff
    neu foneddwr o fri,
  Atebaf yn foesgar, Nis gallaf yn awr
  Archwaethu un dafn, mae f'enw i lawr.

Ni ydwyf ond plentyn bach egwan o nerth,
I ymladd â gwirod, beth ydwyf o werth?
  Ond er y gall cwrw ddymchwelyd y cawr,
  Myfi ni orchfyfa,
      mae f'enw i lawr.

Chwychi sy yn arfer llymeithian y gwin,
Gan foli ei archwaeth
    a chanmol ei rin;
  Mwy dyogel yn wir yw ymatal yn awr,
  A dod atom ni a rhoi'ch enwau i lawr.
Eleazar Roberts 1825-1912

Tôn [11.11.11.11+11.11]: Mae F'enw I Lawr
  (William Aubrey Williams [Gwilym Gwent] 1834-91)

(My name is down)
I shall not drink a drop of
    spirits ever again,
I certified with my hand to renounce them,
  If the compulsion to drink is great,
  I shall reply, I cannot, my name is down.

  I shall reply, I cannot, my name is down.
  I shall reply, I cannot, my name is down.

Perilous is the drink to touch,
Through drinking it a drunkard will be made
    of a child like me;
  Therefore I shall not take
      from small or great
  A drop of liquor, my name is down.

If ever the cup is extended to me,
By a friend so dear
    or a gentlemen of renown,
  I shall answer courteously, I cannot now
  Taste one drop, my name is down.

I am only a little child, weak of strength,
To fight with liquor, what am I of worth?
  But although beer can destroy the giant,
  It shall not overcome me,
      my name is down.

Ye who are used to gulping the wine,
Praising its taste
    and extolling its virtue;
  Safer truly is to stop now,
  And come to us and put your names down.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~