Y Breuddwyd

Y fi freuddwydiais yn bur ddedwydd

(Y Breuddwyd)
Y fi freuddwydiais yn bur ddedwydd,
  O fewn y cynddydd hirddydd haf,
Fy mod i'n sefyll ar bwys afon,
  Ymhlith y blodion brithion braf:
A phob rhyw lysiau pêr eu hoglau
  Oedd yno'n hulioi'i glannau i gyd;
Mewn llannerch serchus hoenus hynod,
  Ac o don gysgod glasgoed clyd.

Mi a ganfyddais er fy syndod
  Trwy ddail y glasgoed hynod hyn,
Un o'r menywod manol meina'
  A glana 'rioed fu'n rhodio glyn:
Ffein iawn ac ysgawn oedd ei gwisgiad,
  A rhwydd ei rhodiad ar ei throed
A rhoddai wiwber dyner diwniau
  Nes deffro cyrrau'r
      ddyffryn coed.
Anadnabyddus

Tôn: Y Breuddwyd (hen gân)

(The Dream)
I dreamed purely happily,
  Within the early morn of a long day of summer,
That I was standing by a river,
  Amongst the pretty, speckled flowers:
And every kind of sweet-smelling herb
  Was there furnishing all its banks;
In a remarkably lively, passionate grove,
  And from a wave of a shadow of a cosy greenwood.

I detected to my surprise
  Through the foliage of that remarkable greenwood,
One of the most precisely delicate and handsome
  Women who ever walked in the vale:
Very fine and light was her clothing,
  And free her step on her feet
Which would give properly sweet, tender tunes
  Until awakening the corners of the
      valley of the wood.
tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon ~ Emynau ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~