Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Mi sydd fachgen ieuanc ffôl

Bugeilio'r Gwenith Gwyn
Mi sydd fachgen ieuanc ffôl
  Yn byw yn ôl fy ffansi
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn,
  Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy ôl,
  Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
Gwaith 'rwy'n dy weld, y feinir fach,
  Yn lannach, lannach beunydd.

Glannach, glannach wyt bob dydd,
  Neu fi yn wir sy'n ffolach;
Er mwyn y Gŵr
    a wnaeth dy wedd
  Dod im' drugaredd bellach.
Cwnn dy ben, gwel acw draw,
  Rho im' dy law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
  Mae allwedd clo fy nghalon.

Mi godais heddyw gyda'r wawr,
  Gan frysio'n fawr fy lludded;
Fel cawn gusanu ol dy droed
  Ar hyd y coed wrth gerdded.
O cwnna mhen o'r galar maith,
  A serchus iaith gwarineb;
Gwaith mwy na'r byd i'r mab a'th gâr,
  Yw golwg ar dy wyneb.

Tra fo dŵr y môr yn hallt,
  A thra fo ’ngwallt yn tyfu,
A thra fo calon dan fy mron
  Mi fydda'n ffyddlon iti;
Dywed imi'r gwir heb gêl,
  A rho dan sêl d'atebion,
P'un ai myfi ai arall, Ann
  Sydd orau gan dy galon.
Priod: Wiliam Hopcyn 1700-1741
Alaw: Yr Hen Gelynen

Tending the White Wheat
I am a young and foolish lad
  Who live as I please
I tend the white wheat
  And another reaps it.
Why not follow me
  Some day after another?
Because I see you little lass,
  Purer and purer each day!

Purer and purer are you every day,
  Unless it truly is I who am foolish,
For the sake of the One
    who created your countenance,
  Be compassionate towards me now.
Lift your head, look over there,
  Give me your dear white hand;
Because in your lovely breast
  Is the key to the lock of my heart!

I arose today with the dawn,
  Great my fatigue with hurrying;
So I could kiss thy footprints
  Along the wood as I walk.
My head on heat from the lengthy grief
  And loving the language of gentleness;
Worth more than the world to the son thy kin
  Is a look upon thy face.

Whilst the water of the sea is salty,
  And whilst my hair is growing
And whilst there is a heart in my bosom
  I will be faithful to you:
Tell me the truth in secret
  And give under seal your answers,
Whether it is I or another, Ann,
  Which is preferred by your heart.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Caneuon ~ Emynau a Thonau ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~