Yr Achos Fod Menyw yn Lanach na Gwyrryw

E luniwyd Adda gynt heb lai

Yr Achos Fod Menyw
yn Lanach na Gwyrryw
E luniwyd Adda, gynt, heb lai,
  O ddyrys glai y ddae'ren;
Yn llwyd a brwnt e'i gwnaed o bridd,
  Heb gymmal iddo'n gymmen.

A brych yw'r gwrryw fyth fel hyn,
  A melyn a chymmalog,
A llwyn o eithin ar ei ên
  Islaw y talcen tolciog.

Ond Efa ddaeth yn hardd-deg iawn,
  (Gan gael yn llawn ei llunio,)
Yn syw a da, o ais y dyn,
  O'r priddyn, 'nol pureiddio.

Ac fyth y Fenyw'n deg a gawn,
  A gwiwlan iawn e'i gwelir:
Ei dwy-ên glir sy'n denu gwlad
  At hon, o gariad gweirwir.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

The Cause that a Female is
Cleaner than a Male
Adam was designed, long ago, no less,
  From the troublesome clay of the earth;
Grey and filthy he was made of soil,
  Without a joint to him neatly.

And a blemish is the male forever like this,
  And yellow and cloudy,
With a grove of gorse on his chin
  Below the crumpled forehead.

But Eve who came very beautifully fair,
  (While getting fully designed,)
Splendidly good, from the bosom of the man,
  From the clod, after purification.

And forever the Female fair we get,
  And very worthily pure to be seen:
Her clear two-chin is attracting a land
  To this, from eloquent love.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~