Ar Gwymp dyn a'i Godiad

Am adwyth codwm Eden - a'i effaith

(Ar Gwymp dyn a'i Godiad)
Am adwyth codwm Eden,
    - a'i effaith,
  Ni ddiffydd tra haulwen;
  Bu'n farwol ein bywiol ben:
  Duw a wybu y diben.

Aeth dŷn yn elyn eilwaith
    - i'n Meddyg,
  Mewn meddwl ac araith;
  Och enaid! fwy na chanwaith,
  Heb un Duw ar ben y daith.

Bu dyn ar derfyn darfod
    – am dano,
  Ymdynodd drwy bechod;
  (Os yw'n ben) bu'n isa'n bod,
  Yn waelach na'r gwylltfilod.

Dorau yr Iachawdwriaeth – agorwyd
  Yn gywrain a helaeth;
  Drwy râd Iôr,
      o'i dyfn-fôr daeth
  Diogel waredigaeth.

Mae gobaith yma, gwybydd, – i'r enaid,
  Drwy rîn ei Waredydd,
  Am Wynfa, – ni phalla ffydd,
  Addefwyd gan ei Ddofydd.

Gwybod am sail ein gobaith,
    – a'n calon
  F'o'n coledd ei effaith;
  Nôd o'i wedd i wneud ei waith,
  A gwiw-fryd am ei gyfraith.

Absalom Roberts 1780?-1864
Lloches Mwyneidd-dra 1832

(On the Fall of man and his Rising)
About the blight of the fall of Eden,
    - and its effect,
  It will not pass away while the sun shines;
  Our living head died:
  God knew the end.

Man became an enemy a second time
    - to our Physician,
  In thought and speech;
  O woe, soul! more than a hundred times,
  Without any God at the end of the journey.

Man was about to pass away
    - because of it,
  He pulled himself through sin;
  (If he is at an end) he was a lowliest being,
  Baser than the wild beasts.

The door of Salvation - they were opened
  Intricately and widely;
  Through the grace of the Lord,
      from his deep-sea came
  Safe deliverance.

There is hope here, I know, - for the soul,
  Throught the merit of our Deliverer,
  For Blessedness, - it shall not fade,
  It was promised my his Master.  

Knowledge about the foundation of our hope,
    - and may our heart
  Be nurturing its effect;
  The aim from his face to do his work,
  And a worthy intention about his law.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~