Annerch i'r Unrhyw

Mi genais i'th annerch do unwaith o'r bla'n

Annerch i'r Unrhyw
Ar farwolaith ei Wraig, yr hon a fu farw
yn disymmwth o'r parlys, Mai, 1829.
Mi genais i'th annerch,
    do, unwaith o'r bla'n,
Pan gym'raist gymmares,
    i'th fynwes, wr glān;
  Eich dau ich' dymunais
      fwyn hawddfyd a hedd,
  A llwyddiant ac iechyd,
      hir fywyd, hwyr fedd.

Fel hyn y dymunodd
    dy ffrynd, Daniel Ddu,
Ond 'wyllys y Nefoedd
    fel arall a fu;
  A phwy'n well nā'r Arglwydd
      a drefna bob peth,
  Yn ddoeth ei ddibenion,
      mewn cariad di feth:

Gwahanu heb rybudd
    oedd ergyd tra thrwm,
A roddodd dy yspryd
    o'i blegid yn blwm;
  Ti gollaist un serchog,
      wnai'n rhywiog ei rhan
  I wneyd pawb yn happus, -
      un gofus o'r gwan.

Y llwybrau rodiasoch,
    a'ch llafar yn llon,
A ddygant ddwys gofion
    i friwio dy fron;
  Yn unig y teimli,
      yng nghanol mawr lu,
  Ac unig o fewn ac
      o amgylch dy dŷ.

Galara fel Cristion,
    dan drymder dy faich;
Rho'th oglud ar nerthol
    ddiysgog dda fraich;
  Os hon a drwm dery,
      mae'i gallu'n ddi baid,
  I gynnal a nerthu'n
      drugarog wrth raid.

Mae colli gwrthddrychau
    tra hoff hyn o fyd
Yn ddysg in' ochelyd
    eu prisio'n rhy ddrud;
  A rhoddi ein hymgais
      am olud, mewn gwlad
  Lle rhannir trysorau
      o fythol barhād.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Gwinllan y Bardd 1831/1872

Address to Anyone
On the death of his Wife, who died
suddenly from the palsy, May, 1829.
I sang to address thee,
    yes, once before,
When thou didst take a partner,
    to thy bosom, a fine man;
  To you two I wished
      gentle happpiness and peace,
  And success and health,
      long life, a late grave.

Thus I wished,
    your friend, Daniel Ddu,
But the will of Heaven
    was otherwise;
  And who but the Lord
      who ordains everything,
  In the wisdom of his purposes,
      in unfailing love:

To separate without warning
    was a blow so heavy,
That made thy heart
    because of it into lead;
  Thou who didst lose an affectionate one,
      who would make noble his part
  To make everyone happy, -
      one mindful of the weak.

The paths you had walked,
    and your speech cheerful,
That bring intense memories
    to bruise thy breast;
  Lonely thou shalt feel,
      in the midst of a great host,
  And lonely within and
      around thy house.

Mourn like a Christian,
    under the heaviness of thy burden;
Put thy trust on the strong,
    unshakable, good arm;
  If this shall strike heavily,
      his ability is constant,
  To support and strengthen
      mercifully in need.

Losing such lovely objects
    of this world is
Teaching us to avoid
    valuing them too costly;
  And to put our effort
      for wealth, in a land
  Where treasures of
      everlasting endurance are shared.

tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~