Breuddwyd

Breuddwdio a wnaethum yn y glỳn

Breuddwyd
Breuddwdio a wnaethum yn y glỳn
  A'm pen yn syn nos wener;
Gan dybio clywed deugorph brau
  Yn newid geiriau crasder
Un gynt oedd lawn
    dan olud lwyth,
  A'r llall mewn ystwyth isder. -

Ebr y goludog wrth y tlawd,
  Gan siarad gwawd a choegni,
Gorphwysa draw, ysgerbwd llwm,
  Yr wyt yn trwm arogli;
Ystyria fi, îs dôr fy arch
  Na chynnyg amharch imi.

Bum gynt yn bennaeth yn y byd,
  Mewn llawen fyd yn llwyddo;
Yn cael mwynderau gorau gant,
  A phrin i'm chwant ymffrwyno;
Pa ham, er bod ar waelod arch,
  Na chaf rhagorbarch etto?

Bydd ddistaw, meddai'r gŵr tylawd,
  Na siarad oerwawd eiriau;
Aeth heibio'th rwysg,
    ar ddaear gron,
  Y'nghyd a'th feithion foethau;
Nid wyt yn awr ynghladdfa'r plwy',
  Na llai na mwy na minnau.

Ti a fuost gynt, ŵr cefnog gwych,
  Ar seigiau'n mynych wledda;
A minnau'n fynych iawn yn wir
  Heb gael na bi'r na bara:
Ond gwedi'r grym -
    y gwaed a'r grâdd,
  Mae pawb yn gyd-radd yma.

David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
(o'r Saesoneg)

A Dream
Dream I did in the vale
  With my head surprised on Friday night;
Supposing I heard a pair of fragile bodies
  Exchanging words of aridity
The first one was full
    under a wealthy load,
  And the other in lithe lowliness. -

Said the wealthy one to the poor,
  Speaking scorn and contempt,
Rest yonder, bare skeleton,
  Thou art smelling heavily;
Consider me, under the door of my coffin
  And offer me no disrespect.

I was once a chief in the world,
  In a joyful world successful;
Having a hundred of the best delights,
  And my desires scarcely curbed;
Why, although at the bottom of a coffin,
  May I not still be greatly honoured?

Be quiet, said the poor man,
  Nor speak cold scornful words;
Thy ostentation has passed,
    on the round earth,
  Together with thy vast luxuries;
Thou art in the parish burial-place,
  Neither less nor more than I.

Thou wast once, rich brilliant man,
  On frequent dishes feasting;
And I very often truly
  Having neither beer nor bread:
But after the power -
    the blood and the status,
  Everyone is an equal here.

tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~