O deffro f'Awen cân yn awr

Y Buddioldeb o Godi'n Foreu

(Y Buddioldeb o Godi'n Foreu)
O! deffro f'Awen cân yn awr,
  Ar dòriad gwawr y dydd;
Mawr y byddioldeb, yn ddi-au,
  O godi'n foreu sydd;
Wrth wneuthur hyn, O! clywch i gyd,
  Cawn iechyd hyfryd iawn;
Mae hyn yn foddion pur di-lys
  At gynnydd dysg a dawn.

Rhyw dêr hyfrydwch, yn ddi-au,
  A rhyfeddodau fydd
I'w gwel'd yn llon yn llwybray'r lli',
  Nes codi'r meddwl prudd;
Cawn, er ein cysur, wel'd yr haul
  Yn d'od o'i araul gell,
Yr hwn, fel cawr, a lawenha,
  I redeg gyrfa bell.

Gwasgara ei belydron gwych
  O entrych nef i lawr,
Nes lloni'n llwyr ein daear brudd, -
  Mor geinwych fydd ei gwawr!
Holl anian yn adfywio'n llon;
  Hyfrydsain gwynlon fydd
Gan adar mân, yn moli'n bêr
  Ein Nêr, arḍriad dydd.

Ein hysbryd a adlona'n wir
  Wrth swn eu difyr dôn,
Eu hadlais peraidd rodda'n rhwydd
  Wir fawl i'r Arglwydd Iôn;
Ein myfyrdodau 'hed yn glau,
  Ceir drychfeddyliau mâd,
I godi'n llon, trwy lais y llu,
  I freiniol dŷ ein Tad.

Wrth wel'd y gwlith arianaidd ar
  Y ddaear liwgar, lâs,
Adgofiaw wnawn am Dduw ei hun
  Yn noddi dyn â'i ras:
Cofleidio gwaelaidd ddynol-ryw
  Wnaeth Duw yn foreu iawn;
Anfeidrol ddarpar iddynt wnaeth,
  Sef Iachawdwriaeth lawn.

Ryw foreu cain, ar dòriad dydd,
  Y deuodd newydd da,
Am bur Iachawdwr, peraidd ddawn,
  I fyd yn llawn o blâ;
Angylion gwynion roddent drem
  Uwch Bethlehem yn wir;
Cyfoeddent yno'r Iesu mau,
  Yn glau ar foreu clir.

Clywch, bawb sy'n agos ac yn mhell,
  Nid oes gwaith gwell yn bod,
Na chodi gyda thòriad dydd,
  A rhoi i'r Llywydd glod,
Gan afail mewn rhyw orchwyl doeth, -
  Ac yna cyfoeth cawn;
Derbyniwn gan yr Arglwydd Iôn
  Bob rhyw gysuron llawn.

O godi'n foreu, yn ddi-au,
  'Does neb a fyddai waeth, -
Yr henwr llesg ga'i gysur llon,
  A'r ieuanc fwynlon faeth;
Gan hyny, deued pawb, heb goll,
  Trwy holl ororau'r llawr,
I 'mofyn cysur maith di-ri'
  Trwy godi gyda'r wawr.

John William Hughes (Edeyrn ap Nudd) 1817-49
Y Lloffyn 1842

(The Triumph of Rising in the Morning)
Oh, awaken, my Muse! Sing now,
  At the breaking of the dawn of the day;
Great the triumph, without doubt,
  Of rising in the morning is;
By doing this, oh, hear all of you!
  We may get very delightful health;
This is medicine pure and unfailing
  To increase learning and talent.

Some clear delight, without doubt,
  And wonders shall be
To see cheerfully in the paths of the flood,
  Until raising the sad thought
We may get, to our comfort, to see the sun
  Coming from his shining cell,
He, like a giant, will rejoice,
  To run his distant course.

He will scatter his brilliant rays
  From the vault of heaven down,
Until cheering completely our sad earth, -
  How splendid will be his dawn!
All of nature reviving cheerfully;
  A delightful pleasant sound there will be
By small birds, praising sweetly
  Our Lord, at the break of day.

Our spirit he will truly recreate
  By the sound of their entertaining tune,
Their sweet echo rendering freely
  True praise to the Sovereign Lord;
Our meditations fly quickly,
  Beneficial mental images are to be had,
To raise cheerfully, through the voice of the host,
  To the privileged house of our Father.

On seeing the silvery dew on
  The colourful, blue earth,
Let us recall about God himself
  Protecting man with his grace:
Embrace base human-kind
  Did God in a real morning;
Immeasurable preparation for them he made,
  That is, full Salvation.

Some fine morning, at the break of day,
  Good news came,
About a pure Saviour, a sweet gift,
  To a world full of pestilence;
White angels gave a look
  Above Bethlehem truly;
They published there my Jesus,
  Eagerly on a clear morning.

Hear, all ye who are near and far,
  There is no better work,
Than rising with the break of day,
  And rendering to the Governor praise,
By taking hold of some wise task, -
  And then we may get wealth;
Let us receive from the Sovereign Lord
  Every kind of full comfort.

From rising in the morning, without doubt,
  There is nothing that would be bad, -
The feeble old man gets his cheerful comfort,
  And the young delightful nourishment;
Therefore, let all come, without exception,
  Through all the hours below,
To ask for unnumbered vast comfort
  Through rising with the dawn.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~