Ti erchaist ini'n Tad o'r nef

(Erfyniad am Wlaw)

(Erfyniad am Wlaw - Mehefin 1826)
Ti erchaist ini, 'n Tad o'r nef,
  Ddyrchafu'n llef i'th orsedd,
Er cymmaint yw ein bai a'n cam,
  A galw am d'ymgeledd.

Mae gwisg ein dae'ren heddyw'n wael,
  O Arglwydd hael, dihidla
Y mwyn gafodydd etto'n ir,
  Wrth wedd ein tir tosturia.

Mae'n boeth yr haul, - mae'n gras yr hin,
  Y gwair yn flin ddiflanna;
Yr ydyn godai'i ben uwch dôl
  Yn raddol y marweiddia.

Mae'r anifeiliaid ar y maes
  A'u gwedd yn llaes, - a'r llysiau
A wywant gan y gwres di dwn;
  Trist gweled pwn eu pennau.

Mae'r bryniau'n goch, - a'r ddôl oedd hardd,
  A ffrwythau gardd yn crino,
Ac ymborth dyn dros ddydd a ddaw
  Mae myrdd mewn braw am dano.

Mae agwedd anian oll yn glaf;
  O! anfon, Naf y nefoedd,
Y gwlaw i'n plith o gelloedd gwawl, -
  Cei gynnes fawl gan filoedd.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

(Supplication for Rain - June 1826)
Thou hast commanded us, our Father from heaven,
  To raise our voice to thy throne,
Despite how great are our fault and our wrong,
  And to call for thy help.

The clothing of our land today is poor,
  O generous Lord, drop
The gentle showers still fresh,
  On the face of our country have mercy!

Hot is the sun, - roasting is the weather,
  The grass exhausted is vanishing;
The grain which would raise its head above the meadow
  Gradually loses its vigour.

The animals on the field are
  With their slack manner, - and the herbs
Which wither under the unbroken heat;
  Sad to see their extra burden.

The hills are red, - and the meadow which was beautiful,
  And the garden fruits shrivelling,
And man's sustenance for the coming day
  A myriad are in dread for it.

The aspect of all nature is poorly;
  Oh, send, Chief of heaven,
The rain amongst us from the cells of light, -
  Thou wilt get warm praise from thousands.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~