Gwahoddiad y Perllanau

Dowch ddynion medd llawnion berllanau

(Gwahoddiad y Perllanau)
Dowch, ddynion, medd llawnion berllanau,
  Mae'n ffrwythau yn chwareu i chwi;
I chwi'n dỳrau pêr eu darparwyd,
  Yn faich fe'u cynnyddwyd i ni;
Ymborthwch, a chofiwch ddyrchafu
  Y Duw sy'n anrhegu yn rhodd,
Mor beraidd, mor iraidd yr aeron,
  I ddynion yn faethlon, o'i fodd.

Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

(Invitation to the Orchards)
Come, ye men, say full orchards,
  Our fruits are playing for you;
For you as sweet heaps they were prepared,
  As a burden for us they were produced;
Feed ye, and remember to exalt
  The God who presents as a gift,
So sweet, so fresh the berries,
  Nourishing for men, from his favour.

tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~