Gwrandewch fy nghym'dogion ac felly gyfeillion

Gwrandewch fy nghym'dogion,
    ac felly gyfeillion,
  Mae'r Arglwydd yn foddlon im' fyw;
Ond byw heb ddim beiau
    wy'n ddewis yn ddiau,
  Tan garu trwy'm dyddiau Fab Duw;
Byw heb roddi munud
    o mywyd ddim mwy,
  I borthi cnawd diles, tylawd,
      hen geudawd magadwy,
Rhag maethu'm gwahanglwy' o hyd;
  Mae'r amser aeth heibio
      i'w foddio'n rhy faith;
Rhoi dyddiau da fy hirddydd ha',
    mawr yrfa mor hirfaith,
  Heb obaith, ond gweniaieth i gyd.

Wel bellach mi bwyllaf,
    o'r ddaear gweddiaf
  Ar Dduw, mi erfyniaf am fod
A'm bwriad yn burach,
    iawn grefydd yn gryfach,
  I draethu'n eglurach ei glod;
Duw trwy fy nghystudio
    i'm deffro y daeth,
  A'm dwyn i'w dŷ cynnes cu,
      i garu magwraeth,
Rhagluniaeth dda helaeth oedd hi:
  Diolchaf o blegid y gofid a ges,
Fy nhaflu i lawr enyd awr,
    ond mawr gamgymmeres,
  Troi'r cwbl er mantes i mi.
Edward Jones 1761-1836

Tôn [12.8.12.8.11.14.8.11.14.8]: Hunting Fox

Listen, my neighbours,
    and likewise my friends,
  The Lord is pleased for me to live;
But to live without any faults
    I am choosing doubtlessly,
  While loving throughout my days the Son of God;
To live without wandering one minute
    of my life any more,
  To indulge unprofitable, poor flesh,
    an old nourishable stomach,
From sustaining my leprosy continually;
  The time has gone past
      to satisfy it too extensively;
To give the good days of my long-dayed summer,
    a great course so prolonged,
  Without hope, except fine words altogether.

Well, now I shall consider,
    from the earth I shall pray
  To God, I shall petition to be
With my intention purer,
    true belief stronger,
  To expound more clearly his praise;
God through afflicting me to awaken me has come,
  And to lead me to his dear, warm house,
      to love a nurturing,
Good, plenteous providence it was:
  I will give thanks because of the grief I had,
My being thrown down for a while,
    but greatly I was mistaken,
  The whole turns to my advantage.
tr. 2014Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~