Yr Haf

Fe gladdwyd tlysni anian

(Yr Haf)
Fe gladdwyd tlysni anian
  Ym medd y gaeaf du,
A'r gwynt rydd brudd alargan
  Mewn oer gwynfannus gri:
Ond, ha! daw'r haf toreithiog
  A bywyd yn ei gôl,
A thaena flodau gwridog
  Ar wyneb bryn a dôl.

Mae'r goedwig mewn hardd unedd
  Yn gwisgo mantell werdd,
A'r haf sydd ar ei orsedd
  Yn chwarae tannau cerdd;
Mae'r delyn gynt fu'n hongian
  Ar helyg gaeaf gwyw
Yn rhoddi miwsig allan, -
  Ust! Clywch! Mae'r byd y fyw!

Thomas Evans (Telynog) 1840-65

(The Summer)
Silver ornaments were buried
  In the grave of the black winter,
And the wind will give a sad lament
  In a cold, complaining cry:
But, ha! the plenteous summer is coming
  With life in its bosom,
And it will spread ruddy flowers
  On the face of hill and meadow.

The woodland is in beautiful unity
  Wearing a green cloak,
And the summer is on its throne
  Playing chords of music;
The harp which was formerly hanging
  on the withering willow of winter
Is giving out music, -
  Hush! Hear! the world is alive!

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~