IAWN OLWG ar Ddysgeidiaeth

Nis oes ddoethineb heb hyn

Iawn Olwg ar Ddysgeidiaeth
Nis oes ddoethineb heb hyn,
Aml gofio mai ail gwyfyn
  Yw y dyn mwyaf doniol,
  A'i ffun mal eiddaw y ffol.
HORAS, er maint
    oedd hoywrym
Ei ddeall llwyrgall a llym,
  A gaid, yn ei olaf gell,
  Bôr addysg, yn oer briddell.
NEWTON, a chwiliai natur,
Hynt glau, drwy
    ei pharthau'n ffur, 
  G'add annedd, yn nìwedd nôd, 
  Mewn daear a mân dywod. 
JOHNSON, a sôn ei synwyr
Yn llif dros y byd yn llwyr,
  Hwn a ddaeth yn gaeth i'r gwys, -
  I salgafn yr iselgwys.

Ninnau, lai'n golau, gwaelod
Y bedd yw diwedd ein bôd!
  Er nad beius, foddus faeth,
  Dwys godi mewn dysgeidiaeth,
Yr addysg oreu wiwddoeth,
I ddyn, yw myfyrio'n ddoeth
  Ar bethau gwir a bythawl
  Eu gwerth yn ardaloedd gwawl.

O b'ai 'n ol bob rhyw holiad, 
Dysgwn hyn yn dasg i n hiâd, 
  Golwg ar y mawr GELI,
  Ein Nêr a'n Creawdydd ni,
Fal yn ddoeth uwch pawb doethion
A Llyw pob goleuni llon, -
  Ei foddio, gan ufuddwych
  Wneud ei gais,
      dda Ynad gwych, -
Byw'n isel, yn dawel dan
Law Lluniwr hael
    holl anian,
  A'i gariad glwysfad
      yn glau
  Fwyn nôd ei holl drefniadau, -
Cofio mai pwyll y ceufedd,
Lleiaf fan,
      yw oll a fedd
  Y goludog a'i glodydd,
  Foethus wr, mor faith y sydd;
Mai yna daw'r doetha' dyn
A ddaliodd yn hir ddilyn
  Llwybr dysg, - pan ga
      holl bair dawn
  Ei difa gan
      bry'r du-fawn.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

A Right View of Teaching
There is no wisdom without this,
Often remembering that just like a moth
  Is the most amusing man,
  And his spirit like that of the fool.
HORAS, despite how sprightly
    and powerful he was,
His understanding fully wise and sharp,
  Was found, in his last cell,
  A learned king, as a cold clod.
NEWTON, who examined nature,
A swift course, through
    its zones learnedly,
  Got a dwelling, as an end point,
  In earth and fine sand.
JOHNSON, whose sense sounds
As a flood over the world completely,
  He became captive to the furrow, -
  To a paltry trough of the lowly sod.

We, of lesser light, the bottom
Of the grave is the end of our being!
  Although not blameworthy, 
  Intently rising in teaching,
The best, worthily-wise learning,
For man, is meditation wisely
  On true and eternal things,
  Their worth in regions of light.

O that according to every kind of question,
We would learn this as a task for our skull,
  A look at the great OMNIPOTENT,
  Our Lord and our Creator,
As one wise above all wise ones
And the Governor of every cheerful light, -
  Pleasing him, by greatly obediently
  Doing his request,
      a great, good Judge, -
Living lowly, quietly under
The hand of the generous Designer
    of all nature,
  With his beautifully virtuous love
      as the swift,
  Gentle aim of all his purposes, -
Remembering that wise is the tomb,
  The smallest place,
      is all that shall possess  
  The wealth and the praises,
  Of a wealthy man, how vast it shall be;
That there shall come the wisest man
Who long held to following
  The path of learning, - when the
    whole cauldron gets the ability
  To devour him with the
      worms of the black peat.

tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~