Johnny Bach

Dyma rosyn wedi gwywo

Johnny Bach
Ty'n y Ffraith, Llansantffraid, Conwy - 4-oed.
Dyma rosyn wedi gwywo,
  Pan yn dechre codi'i ben;
Dyma blentyn wedi ei symud
  Fry i ganol nefoedd wèn.
Dyma obaith wedi pallu,
  Tyner ofal rhïaint cu.
Iesu ei hunan alwodd arno
  "Johnny bach, tyr'd atat fi."

'R wyf yn gweled Johnny heddyw
  Fry yn entrych Nefoedd wèn,
Gyda thelyn aur, a phalmwydd,
  Coron euraidd ar ei ben;
Iesu hawddgar arno'n gwenu,
  Yntau'n uchaf un ei lef,
Wedi uno yn yr Anthem
  Am ei ddwyfol gariad Ef. 

Rebeccah Davies
Trysorfa y Plant, Chwefror 1883.

Little Johnny
Ty'n y Ffraith, Llansantffraid, Conwy - 4 years old.
Here's a rose having wilted,
  When starting to raise its head;
Here's a child having moved
  Up to the centre of bright heaven.
Here is hope having faded,
  The tender care of dear parents,
Jesus himself called upon him
  "Little Johnny, come to me."

I am seeing Johnny today
  Up in the vault of bright Heaven,
With a gold harp, and palm branches,
  A golden crown on his head;
Beautiful Jesus upon him smiling,
  He with the loudest cry,
Having joined in the Anthem
  About His divine love.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~