Llinellau ar y Bibl

Llafar Dofydd llyfr dwyfol (gorfyg)

(Llinellau ar y Bibl)
Llafar Dofydd llyfr dwyfol - gorfyg,
  O gerfiad ysbrydol;
  O'i gredu, heb ffaelu'n ffol,
  Nofiaf i Wynfa nefol.

Beunydd boed gair Duw'n bena' - i mi,
  Yn mhob rhyw sefyllfa;
  Wrth ei reol dduwiol, dda,
  Fwyn, radol, f'enaid rodia.

Na chwennych ddim yn chwaneg - na'r trysor
  Tra iesin a gwiwdeg:
Wych oleu'n Duw,
    o'i chwilio'n deg, - heb baid,
  Digwl i f'enaid daw goleu-fyneg.

John William Hughes (Edeyrn ap Nudd) 1817-49
Y Lloffyn 1842

(Lines on the Bible)
The speech of the Master of a divine book - will persuade,
  From a spiritual inscription;
  From believing it, without foolishly failing,
  I will swim to a heavenly Paradise.

Daily may the word of God be chief - to me,
  In every kind of situation;
  By his divine, good, gentle
  Gracious rule, my soul will walk.

I will crave nothing in addition - nor the treasure
  So bright, fair and worthy:
The brilliant light of our God,
    from seeking it fairly, - without ceasing,
  Faultless to my soul will come evidence.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~