Mis Mai

Mor dêg a hyfryd ydyw Mai

(Mis Mai)
Mor dêg a hyfryd ydyw Mai,
  Pob peth heb drai sy'n ddedwydd, -
Mor hardd eu drych
    yw blodau'r drain
  A geir yn gain ar gynydd, -
Aderyn bach, mor bêr dy big,
  A'th gân ar frig y gwinwydd.

Y ddaear rwydd sydd oll yn wres,
  A glân yw tês y glennydd, -
Mor gwyn y gwenyn sydd yn gwau,
  Gan sugno diliau'r dolydd,
Ac arwain adre'u llwythau llawn
  Ar dynion iawn adenydd.

Mor lwys a llon
    yw meillion Mai,
  Y lili a'i chwiorydd, -
Fel llawn yr afon pan bo lli',
  Llawn clod a bri yw'r bröydd:
A daethost tithau 'nol yn iach,
  Gu wennol fach, i'n gweunydd.

Mor felus clywed llais y gôg,
  A gweled clog y coedydd,
Mewn llawen fraint
    a'u lliw yn frith,
  Ac arnynt wlith boreuddydd, -
A gwrando wrth fachludiad ser
  Ar ganiad pêr uchedydd.

I roeso Mai, O deued myrdd,
  A'i wen yn wyrdd ar wawrddydd; -
E ddarfu'r gauaf
    oer ei naws
  Fu'n hir yn draws-reolydd,
Blae Mai mewn braint uwch unrhyw bris,
  Y goreu Fis i faesydd.

Coroner Mai
    trwy'r byd ar g'oedd
  Yn ben y misoedd mwynrydd
A blodau teccaf trwy y tir,
  Nes byddo'n wir ysblennydd, -
A doed i ganu'i fawl yn ffrwd
  Mewn cariad brwd bob prydydd.

O doed y merched têg eu pryd,
  A'r bechgyn gyda'u gilydd,
Ar ddechreu Mai, i'w barchu o,
  I ddawnsio ar y bronydd,
Fel gwna mewn agwedd wych ddi wael,
  Yr ŵyn ar ael y mynydd.

Pwy, pwy, yr amser hyfryd hyn,
  A erys yn y trefydd,
Yn druan wr, mewn cyflwr cas,
  Yn gaethwas rhwng magwyrydd;
Tra'r ddaear las yn siriol iawn,
  A'r coed yn llawn llawenydd?

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Gwinllan y Bardd 1831

(The Month of May)
How fair and delightful is May,
  Everything without ebbing is happy, -
How happy in their appearance
    are the flowers of the thorn
  Which are found delicately increasing, -
A small bird, so sweet thy beak,
  And thy song on the tip of the vine.

The free earth is all warm,
  And pure is the warmth of the banks, -
How bright the bees who are weaving,
  While sucking wild flowers,
And leading home full tribes
  On very tenacious wings.

How pleasant and cheerful
    is the clover of May,
  The lily and her sisters, -
Like the full river when there is a flood,
  Full of praise and renown are the vales:
And thou also camest back healthy,
  Dear little swallow, to our moors.

How sweet to hear the voice of the cuckoo,
  And see the cloak of the woods,
In merry privilege
    with their speckled colour,
  And upon them the dew of the morn of day -
And listen by the setting of stars
  To the sweet song of a skylark.

To welcome May, O let a myriad come,
  With their smile green at daybreak; -
The winter with its cold temperament
    has passed away
  Which was long as a tyrant
May is in a privilege above any price,
  The best Month for fields.

May is to be crowned
    throughout the world publicly
  As chief of the months of treasure
With the fairest flowers throughout the land,
  Until becoming truly splendid, -
And to sing its praise as a stream
  In fervent love let every poet come.

O let the girls fair of face come,
  And the boys together,
At the beginning of May, to reverence it,
  To dance on the slopes,
As do in a brilliant, excellent attitude,
  The lambs on the brow of the mountain.

Who, who, at this delightful time,
  Shall stay in the towns,
As a wretched man, in a detestable condition,
  As a captive between walls;
While the blue-green earth is very cheerful,
  And the wood full of joy?

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~