Myfyrdod y Llongwr ar y Mor

Wel dyna'r pryd a'r lle priodol

(Myfyrdod y Llongwr ar y Mor)
Wel dyna'r pryd
    a'r lle priodol
I byngcio, seinio'n ddefosionol,
  Beraidd ganiad bur ddigynnwr;
  I'n tirion Iesu, a'n Teyrnaswr:
Fe wnaeth o'r Gogledd hyd y gwagle,
  Gan lunio dyfrlle'r dòn:
Fe fu'n gosod mur o dywod,
  I drefnu hynod derfyn hon.
Medd y Salmydd dyfal Dafydd,
  Ar gynnydd, oreu gŵr,
Ce'ir gwel'd gweithredoedd
    Brenhin Nefoedd,
  Yn nyfnderoedd mawr y dw'r.

Mae gallu Duw i'w weld yn helaeth,
Yn groyw deg drwy'r
    holl Grëedigaeth:
  Daw i'r golau o'r dirgeloedd,
  Fawrwaith Iôr, ar Fôr a thiroedd:
Gwyliwn gellwair, mewn ysgafnder,
  Uwch ben y dyfnder dwys;
Rho'wn ein didwyll fyfyrdodau,
  Ar y pethau mwya' eu pwys:
Rhed yr amser hoywber heibio,
  'Ry'm ninnau'n hwylio o hyd,
Ar Fôr terfysgus lled drallodus,
  Profedigaethus, feius Fyd.

Ni fydd ond trwch
    ystyllen denau
Weithiau rhyngom a thir Angeu;
  Bydd weithiau'n
      dywydd da i fordwyo,
  Ac weithiau'n bur
      beryglus morio:
Er ini geisio hylaw hwylio,
  A morio i lawer man:
Rhêd myfyrdod ar Rïanod,
  Neu ryw eulynod ar y làn:
Er gado'r gymmen
    Fainwen fwyna',
  Neu'r Ferch anwyla' 'n ol,
Ni all y dyfroedd mewn lle difri',
  Lwyr ddiffoddi ffansi ffol.

Mae'r mor y dwyn rhyw gyffelybiaeth,
I'r Byd sy'n llawn o lygredigaeth;
  Llawn yw'r gwyrddlas
      Fôr o heli; -
  Llawn yw'r galon o ddrygioni:
Gwyntoedd, chwantau, cnawdol nwydau,
  Ac ymrysonau sydd;
Am suddo llestr, enaid tyner,
  I lawr y dyfnder lawer dydd:
Gobeithio y cawn fordwyo o'r diwedd,
  Drwy rinwedd gwaed yr Oen;
I'r hyfryd lân,
    sef man dymunol,
  Ym mhell o gyrhaedd bydol boen!

Mae Duw yn nhrefn ei Ragluniaethau,
Yn yr wybr wen ar brydiau;
  Ei ffyrdd sydd yn y moroedd mawrion,
  A'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion:
Uchel odiaeth anchwiliadwy,
  Ofnadwy Frenhin Nef,
Nyni a ddylem iawn addoli,
  Ei Fawrhydi, a'i ofni ef:
Trwy annhraethol allu hollol
  Anfeidrol Ior
      Nef wen,
Bydded llwyddiant i'n holl eiddo,
  Tra bo'm yn ceisio morio, Amen.

David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822

Mesur: "Susanna" (~ 8888.8688.8688)

(Meditation of the Sailor on the Sea)
See, here is the time
    and the place suitable
To sing, sound devotionally,
  A sweet song purely undisturbed;
  To our tender Jesus, and our Ruler:
He made from the North as far as the space,
  Designing the watercourse of the wave:
'Twas he who set a wall of sand,
  To arrange this notable boundary.
Said the devoted Psalmist David,
  Increasingly, the best of man,
The activities of the King of Heaven
    are to be seen
  In the great depths of the water.

God's power is to be seen broadly,
Fairly clearly throughout
    the whole Creation:
  The Lord's great work, on Sea an lands,
  Shall come to light from the secrets:
Let us see a joke, in lightness,
  Above the intense depth;
Let us give our sincere meditations,
  To the things of greatest weight:
The vivacious, sweet time runs past,
  While we are still sailing,
On a tempestuous, widely troubled Sea,
  Of a World beset with trials and faults.

There shall be nothing but the thickness
    of thin planks
Sometimes between us and the land of Death;
  There shall sometimes be
      good weather for navigating,
  And sometimes purely
      perilous be see-faring:
Although we try skilfully to sail,
  And voyage to many a place:
Meditation runs on Damsels,
  Or some images on the shore:
Although leaving the
    gentlest, neat Fine-One,
  Or the dearest Girl behind,
The waters in a serious place cannot
  Completely extinguish a foolish fancy.

The sea is bearing some likeness,
To the World which is full of corruption;
  Full is the green-blue
      Sea of salt-water; -
  Full is the heaven of evils:
Winds, desires, fleshly lusts,
  And contentions it is;
To sink a vessel, a tender soul,
  Down to the depth of many a day
Hopefully we may navigate finally,
  Through the precious blood of the Lamb;
To the delightful fold,
    that is a desirable place,
  Far from the reach of earthly pain!

God is arranging his Providences,
In the bright sky at times;
  His ways are in the great seas,
  And his paths in the deep waters:
High extremely unsearchable,
  The terrible King of Heaven,
We who ought rightly to worship,
  His majesty, and fear him:
Through the wholly inexpressible power
  Of the immeasurable, bright
      Lord of Heaven,
Be prosperity to all that is ours,
  While ever we attempt to sail, Amen.

tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~