Rhyfedd da rinwedd dirionwch - ein Naf

Ychydig Englynion i gydnabod y tiriondeb
a ddangosodd Duw yn ei ragluniaeth
tu ag at ein gwlad, yn y Heddwch diweddar,
a'r Cynhauaf heaethlawn.
Rhyfedd, da rinwedd, dirionwch
    - ein Naf
  A'i nefawl ddyn-garwch!
Rhwyddodd in' wawr o heddwch,
  Ar ol blwyddau flammau fflwch.

Rhyfel (ail ryfel ofwy - anwyol)
  Ein daear bu'n tramwy;
  E fu'n nodawl ofnadwy,
  I fynnu maeth, fwy nâ mwy.

Rhwysgodd, e lyngcodd yn lew wangcus
    - dorf
  O dirfion wŷr prydus:
  Y gwâs triphen gwastraffus,
  Dyddiau ei raib
      nid oedd rus.

Y Llew blwng! teilwng attaliad
    - gwiwfawl
  A gafodd ei rediad:
  E ddoi awch i heddychiad,
  Er lludd i gledd, er llwydd gwlad.

Yn rhodd, Naf hyfodd hefyd,
    - o'i fwynwaith
  Anfonodd helaethfyd:
  Llawnder wedi culni c'ŷd,
  Pêr iawn-fael ar ol prin-fyd.

(Cnwd da, gwỳn eitha' gwenithyd
     - goddwys
   A guddiodd y gweryd:
   Caem wlad lawn o rawn yr ŷd;
   Caem, dlodion Frython, frithyd.)

Rhown fawl hoen weddawl iddo
    - (hoff ddychwant)
  A phwy ddichon beidio?
  Am droi'r dig ffyrnig i ffo,
  A mediad prin i 'ymado.

Trysorfa Ysprydol
Rhagfyr 1801

A few verses to acknowldge the tenderness
which God showed in his provision
towards our land, in the recent Peace,
and the abundant Harvest.
A wonder, a good virtue, the tenderness
    - of our Lord,
  And his heavenly kindness!
He has expedited for us a dawn of peace,
  After years of prodigious flames.

A war (a second fearsome war - ruinous)
  Our earth was traversing;
  It was notably terrible,
  To grow nourishment, more than more.

It flourished, it swallowed as a craving lion
    - a multitude
  Of fresh, beautiful men:
  The three-headed wasteful servant,
  The days of its voraciousness
      were not hesitant.

The fierce Lion! a worthy hinderance
    - praiseworthy
  Who got his run:
  He would come eager to conciliation,
  To hinder his sword, to govern a country.

As a gift, an agreeable Chief also,
    - of his pleasant work
  Sent an abundance:
  Fullness after meagreness so long,
  Sweet bounty after scarcity.

(A good crop, extremely white wheat grain
     - truly intense
  Which hid the soil:
  We had a land full of the grain of the corn;
  We had, poor Britons, speckled corn.)

Let us render lively, worthy praise to him
    - (a lovely desire)
  And who could not?
  For turning the fierce anger to flee,
  And scare reaping to leave.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~