Yr Eneth Segur

Wi geinwych haul gad asur fry

Yr Eneth Segur
WI! geinwych haul, gad asur fry
Am egwyl fach, tyr'd gyda mi;
Gad heibio'th rawd wybrenol draw,
Tyr'd, chwareu wnelom law yn llaw:
  Yr haul a ddywed, Na!

Wynt oerllyd, lleddfa'th chwiban cras,
Paid chwareu gyda'r crychfor glas;
Tyr'd gyda mi, tyr'd awel fwyn,
Cydchwareu wnawn yn nghoed y llwyn:
  Yr awel ddywed, Na!

O loew ddŵr, paid llifo'n mlaen,
Tyr'd at fy nhroed, rho dyner gān;
Diddiwedd bron yw'th daith bob dydd,
Gorphwysa, 'r fach, yn ffrynd im' bydd:
  Yr afon ddywed, Na!

Aderyn hardd yn mrig y coed
Y tlysaf wyt a fu erioed;
Nid oes it' waith, tyr'd ataf fi
Am enyd fer, cei uchel fri:
  Y 'deryn ddywed, Na!

Haul, dwr, gwynt, 'deryn ddywed "Na!"
Fel hwythau mwy, myfinnau wna;
Yn segur mwy ni byddaf chwaith,
Caf chwareu ar ol gorphen gwaith.
  A'r oll ddywedent, DA!

cyf. Owen Grifith (Eos Eilian) 1851/2-99

The Idle Lass
OH! brilliant sun, leave the azure above
For a little while, come with me;
Leave thy celestial course yonder,
Come, let us play hand in hand:
  The sun says, No!

Chilly wind, ease thy rough whistle,
Stop playing with the blue, rippled ocean;
Come with me, come gentle breeze,
Let us play together in the wood of the grove:
  The breeze says, No!

O bright water, stop streaming onwards,
Come to my feet, give a tender song;
Completely endless is thy journey every day,
Rest, little one, be a friend to me:
  The river says, No!

Beautiful bird on the twig of the tree,
The prettiest ever thou art;
There is no work for thee, come to me
For a short while, thou shalt get high honour:
  The bird says, No!

Sun, water, wind, bird say "No!"
Like them henceforth, I myself shall do;
Lazy henceforth nor shall I be,
I may play after finishing work.
  And they all said, GOOD!

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~