Mae Enw Duw'n ymddangos yn deg mewn nos a dydd

1,2,3,4,(5),6,7.
(Am Enw Duw yn amlwg)
Mae Enw Duw'n ymddangos
    yn deg mewn nos a dydd,
A'i enw'n mhob blodeuyn
    a phob llysieuyn sydd;
  Mae yn yr Haul yn amlwg
      i'w weld i'm golwg i,
  Ac hefyd yn y Lleuad
      a'i hardd ysgogiad hi.

Wrth edrych ar y nefoedd
    a'r lluoedd uwch y llawr,
Ni welwn Dduw anfeidrol,
    yn un rhyfeddol fawr,
  Mae'r lloer a'r ser, llu
      siriol, yr haul a rhëol rhai'n,
  Yn cyd glodfori ei fawredd
      yn un gysonedd sain.

Mae enw y Creawdwr
    i'w wel'd mewn dw'r bob dydd,
Ac yn y tân mae'n amlwg
    er maint ei fwg a fydd,
  Mae'i enw yn yr awyr
      erioed yn eglur iawn,
  A'i enw yn y ddaear
          a'i ffrwythau lliwgar llawn.

Mae enw Duw'n ddigymmysg
    i'w wel'd yn mhysg y môr,
Ac yn y rhyw asgellog
    sy'n fywiog enwog gôr,
  Eu rhywiau, lleisiau llesol,
      rhagorol siriol sain,
  Yn datgan am ei fawredd
      mor rhyfedd y mae rhai'n.

Mae'i enw'n mhob gwenithyn,
    a grawnyn hedyn haidd,
Mae yn y dderwen frigog,
    a'r cwmmin rywiog wraidd;
  Mae'i enw yn yr onen,
      a'r goedwn 'fallen fyw, -
  Pob peth ymhell ac agos
      sy'n dangos enw Duw.

Ond yn ei Air yn benaf
    a llawnaf o un lle,
Y gwelwn mor rhagorol
    anfeidrol ydyw 'fe;
  Ac yn a gair agorir
      yr enw'n gywir iawn,
  I olwg y creadur,
      mae hwn yn llythyr llawn.

A glywir llais y llysiau,
    yn seinio ar nodau'n uwch,
Na llais a doniau dynion,
    O chwi rai c'ledion clywch!
  A gaiff pob peth glodfori,
      heb dewi fawredd Duw;
  A dynion fod yn fudion,
      ben-rhyddion, o bob rhyw?
Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

[Mesur: 12.12.12.12]

(About the Name of God as evident)
The Name of God is appearing
    fair in night and day,
And his name in every flower
    and every herb is;
  In the Sun it is evident
      to see it to my sight,
  And also in the Moon
      and its beautiful stimulation.

On looking at the heavens
    and the host above the earth,
We see God infinite,
    in one great wonder,
  The moon and the stars are, a cheerful
      host, the sun which regulates those,
  Extolling his treatness
      in one constant sound.

The name of the Creator is
    seen in water every day,
And in the fire it is evident despite
    the extent of its smoke there is,
  His name is in the air
      always very clear,
  And his name in the earth
      and its colourful, full fruits.

The name of God is unmixed
    seen in the midst of the sea,
And in the winged kind
    who are a lively famous choir,
  Their kinds, benficial voices,
      an extremely cheerful sound,
  Declaring about his greatness
      how wonderful are those.

His name is in every blade of wheat,
    and grain of barley seed,
It is in the spreading oak,
    and the common, noble root;
His name is in the ash tree,
  And the tree of the living beech, -
Everything far and near
  Is showing the name of God.

But in his Word chiefly
    and fullest from one place,
We see how exceptional
    immeasurable is he;
  And in the word is to be opened
      the name very truly,
  To the sight of the creature,
      this is a full letter.

And the voice of the herbs is to be heard,
    sounding on louder notes,
Than the voice and gifts of men,
    O ye hard ones, hear!
  And everything gets to extol,
      without ceasing the greatness of God;
  Shall men be mute, unheeding,
      of every kind?
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~