Ar ryw noswaith yn fy ngwely Ar hyd y nos yn ffaelu cysgu, Gan fod fy meddwl yn ddiame Yn cydfeddwl am fy siwrne. Galw am gawg a dŵr i 'molchi Gan ddisgwyl hyn i fy sirioli; Ond cyn rhoi deigryn ar fy ngruddiau Ar fin y cawg mi welwn Angau. Mynd i'r eglwys i weddio, Gan dybio'n siwr na ddeuai yno; Ond cyn i mi godi oddi ar fy ngliniau, Ar ben y fainc mi welwn Angau. Mynd i siambar glos i ymguddio, Gan dybio'n siwr na ddeuai yno; Ond er cyn closied oedd y siambar Angau ddaeth o dan y ddaear. Mynd i'r môr a dechrau ymrwyfo, Gan dybio'n siwr na fedrai nofio; Ond cyn cyrraedd dyfnion donnau Angau oedd y capten llongau. Ffarwel ferched, ffarwel feibion, Ffarwel holl ryganau gwyrddion; Duw a faddau i mi 'meiau, Mynd sydd raid i ganlyn Angau. i fy sirioli :: i fi sirioli y cawg :: y gawg siabar :: siambr
cofnodwyd gan Ruth Herbert Lewis
alaw: |
On some evening in my bed Throughout the night failing to sleep, Because my thoughts were doubtless Contemplating my journey. Call for a bowl and water to wash Expecting this to cheer me; But before putting a drop on my cheeks On the edge of the basin I was seeing Death. Go to the church to pray, Thinking surely he wouldn't come there; But before my getting up off my knees, At the end of the bench I was seeing Death. Go to a locked chamber to hide, Thinking sure he wouldn't come there; But though so locked was the chamber Death came in through from under the ground. Go to the sea and began to row Thinking surely he couldn't swim; But before reaching the deep waves Death was the captain of ships. Farewell lasses, farewell lads, Farewell all evergreen songs; God will forgive me my sins, Go I must to follow Death. tr. 2009 Richard B Gillion |
|