Y cyfan oll sydd genny 'n awr Yn y cyfanfyd crwn Yw'r fendigedig gyfrol hon, Yw'r Beibl anwyl hwn. Mae'n dechreu gyda dalen deg Ein pren teuluaidd ni: Fy mam wrth farw, megis mam A roddodd hwn i mi. Rwy'n cofio'n dda rai enwau hoff, Ar ddechreu'r gyfrol hon; Fy mrawd, fy chwaer, a'r baban bach Fu farw wrth y fron. Rwy'n cofio'r hwyr darllennai 'nhad, Am Grist ac angeu loes; Ac fel y codai'r Beibl hwn Wrth son am waed y groes. Mi dreuliais lawer awr erioed, I feddwl am y fan; Rwy'n gweld y teulu'n fyw, er fod Eu beddau yn y Llan. Rwy'n gweld y plant ar derfyn dydd, A'r bychan byr ei gam Yn myned ar ei ddeulin bach, Wrth lin fy anwyl fam. Mae'r byd yn wag, cofleidiaf di, Fy Meibl anwyl iawn; Y fynwent a'th ddalennau di Yw'r unig bethau llawn. Esmwytha di fy ffordd i'r bedd Trwy ddysgu'r ffordd i fyw: Crynedig dwylaw fo'n dy ddal Fys anweledig Duw.John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832-87 Tôn [8787D]: Beibl Fy Mam (Y Delyn Aur 1868) |
All that I have now In the whole round world Is this blessed volume, Is this beloved Bible. Is begins with a the fair page Of our family tree: My mother, on dying, like a mother Gave this to me. I remember well some lovely names, At the beginning of this volume; My brother, my sister, and the little baby Who died at the breast. I remember the evening my father read About Christ and his throes of death; And how he lifted this Bible While telling of the blood of the cross. I ever spent many an hour To think about the place; I see the family alive, although Their graves are in the churchyard. I see the children at the end of day, And the small one with a short step Going on his two little knees, By the knee of my dear mother. The world is empty, I shall embrace thee, My very beloved Bible; The cemetery and thy pages Are the only things full. Ease thou my way to the grave Through learning the way to live: May trembling hands be holding thee, Finger of an invisible God.tr. 2023 Richard B Gillion |
|