O lwydion Fythod Cymru! Sy'n llechu is y llwyn! Er bod heb furiau mynor, A'u tô yn wellt neu frwyn; O'u mewn mae llawer angel Yn hoffi troi ei ben, I syllu mewn gorfoledd Ar etifeddion nen. O dirion Fythod Cymru! O'u mewn ar doriad gwawl, Ac yn y coed a'u hamgylch Y plethir odlau mawl; Y feinir gân yn gynar, A'r adar gyda hi, Eu diolch-gerdd foreuol Am râd eu Nefol Ri. O anwyl Fythod Cymru! Ni fedd un wlad eu hail, - Na lygrer eu haelwydydd, Na sigler byth eu sail! Byth, byth, mor ber a'r blodau Sy'n gwisgo siriol wên, Ar fryn a dôl o'u deutu, Bo Bythod Cymru hen.Evan Jones (Ieuan Gwynedd) 1820-52 Tôn [7676D]: Morning Light (Geoge J Webb 1803-87) gwelir: O dlysion fythod Cymru |
O grey Cottages of Wales, Who lurk under the grove, Although without walls of marble, And their roofs straw or reeds; From within them is many and angel Loving to turn his head, To stare in jubilation On the heirs of heaven. O tender Cottages of Wales, From within at the break of dawn, And in the wood around them Are woven the verses of praise; The lass who sings early, And the birds with her Their morning thanksgiving poem For the grace of their heavenly Lord. O dear Cottages of Wales, No land possesses their equal, - Their hearths shall not decay, Their foundation shall not be shaken! Never, ever, so sweet as the flowers That are wearing a cheerful smile, On hill and meadow about them, Be the Cottages of old Wales.tr. 2021 Richard B Gillion |
|