(Canu'n Iach i Arfon)
Doed holl drigolion
moethus mwyn
Sy’n byw ar swyn danteithion,
I ganu clod dinasoedd cain
A sain y tannau tynion;
Ni ddeuaf byth o’m bwthyn bach
I ganu’n iach i Arfon.
Fe ddywed rhai fod gwledydd pell
Yn well na Chymru dirion,
A deuant gyda gwawd a gwên
I geisio denu dynion;
Arosaf eto ronyn bach
Cyn canu’n iach i Arfon.
Mil gwell yw’r
awyr iach gen i
A bywyd diofalon,
Ym myd y grug a’r eithin mân
A chân yr adar gwylltion;
A thrigo gyda’m teulu bach
Na chanu’n iach i Arfon.
Lewis Davies Jones (Llew Tegid) 1851-1928
|
(Bidding Farewell to Arfon)
Let all the gentle,
wealthy inhabitants come,
Who live charmed by dainties,
To sing the praise of fine cities
With the sound of tight strings;
I shall never come from my little cottage
To bid farewell to Arfon.
Some say that distant lands are
Better than tender Wales,
And they come with mockery and a smile
To try to lure me;
I shall yet stay a little while
Before bidding farewell to Arfon.
A thousand times better
is the fresh air to me
And a care-free life,
In the world of the heather and gorse
And the song of the wild birds;
And dwelling with my little family
Than bidding farewell to Arfon.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|