Carol Cariad

Myfi yw'r merthyr tostur lef

Carol Cariad
Myfi yw'r merthyr tostur lef,
  Duw Iesu o'r nef a'm helpo,
Megis llong rhwng ton a chraig,
  O gariad gwraig 'r wy' 'n curio.

    Och, trwm yw'r loes
      Yr wy' 'n ei ddwyn,
      Heb obaith help na swyn
    Ond Duw a'r ferch a'i rhoes.

Curiodd Cariad glwydau f'ais
  Am seren gwrtais amlwg;
Mae arnaf glwyfau mwy na mil
  Wrth graffu ar gil ei golwg.

Cil ei golwg fal dan haul
  O gysgod dwyael feinion;
Un sy i'm dwyn,
        a'r llall i'm gwadd,
  A'r ddau sy'n lladd fy nghalon.

Calon fy ngwir galon i
  Oedd â hi'n ymgofleidio;
Ymgofleidio â hon ni chawn, -
  Pe cawn ni feiddiwn geisio.

Ac os digia teg ei phryd,
  Ffarwel i'r byd a archaf;
Ar y ddaear help nid oes,
  Fy nerth a'm hoes a gollaf.

Collodd glendid yr holl fyd,
  A Duw i gyd
          a'i tyrrodd,
Ac wrth lunio
        deuliw'r don,
  Yn wyneb hon fo'i gwreiddiodd.

Gwreiddiodd hithau tan fy mron
  O gariad, glwyfon anial;
Gwannach gwannach wyf bob awr
  Drwy gariad mawr a gofal.

Na felwch trosof mwy,
  At Dduw yr wy' yn myned,
'R wy' 'n maddau i bawb ond iddi hi,
  A phawb i mi maddeued.

Maddeuwch, ffrins, na fyddwch ddig,
  Fo'm rhoes y meddyg heibio,
Help nid oes
        na sut im fyw,
  Ffarwel, a Duw a'm helpo!

   Och, trwm yw'r loes
      Yr wy' 'n ei ddwyn,
      Heb obaith help na swyn
    Ond Duw a'r ferch a'i rhoes.

    Mwy help i mi nid oes
      Ond amdo, clul, a gwledd,
      Elor, arch, a bedd,
    A nawdd y Gŵr a'm rhoes.
Hen Ganu (tua 1500-1600)
An old ballad (about 1500-1600)
Carol of Love
I am the martyr of a pitiful cry,
  The God of Jesus from heaven help me,
Like a ship between wave and rock,
  From a woman's love I am hurting.

    Oh, heavy is the anguish
      I am bearing,
      Without hope of help or charm
    But God and the girl he gave.

Love beat the gates of my heart
  For a manifest courteous star;
I bear more than a thousand wounds
  On catching a glimpse of her appearance.

A glimpse of her as under the sun
  From the shadow of two fine eyebrows;
One that takes me,
        and the other that invites me,
  And both that kill my heart.

The heart of my true heart
  Was embracing with her;
Embracing with her I could not have, -
  If I could, I would not dare try.

And if I anger her countenance,
  Farewell to the world I shall bid;
On the earth there is no help,
  My strength and my life I shall lose.

The whole world lost its cleanliness,
  And 'twas God altogether
          that assembled her,
And while fashioning
        the two hues of the wave,
  In the face of her he rooted it.

She herself rooted under my breast
  From love, desolate wounds;
Weaker, weaker I am every hour
  Through great love and care.

Care ye not for me any more,
  To God I am going,
I am forgiving everyone but her,
  And let everyone forgive me.

Forgive, ye friends, and be not angry,
  The physician has put me aside,
Help there is none,
        nor means for me to live,
  Farewell, and God help me!

    Oh, heavy is the anguish
      I am bearing,
      Without hope of help or charm
    But God and the girl he gave.

    There is no more help for me
      But a shroud, a knell, and  feast,
      A bier, a coffin, and a grave,
    And the refuge of the Man who gave me.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~