Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan, Tw rym di ro rym di radl didl dal; O na bawn i yno fy hunan, Tw rym di ro rym di radl didl dal; Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor; Dacw ddrws y beudy'n agor. Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal, Tw rym di ro rym di radl didl dal. Dacw'r dderwen wych ganghennog, Golwg arni sydd dra serchog, Mi arhosaf yn ei chysgod Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod. Rhois fy mryd ar eneth dirion, Hyn sydd bron yn torri nghalon, A bu'n achos iddi hithau Wylo peth amdanaf finnau. Dacw'r delyn, dacw'r tannau; Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae? Dacw'r feinwen hoenus fanwl; Beth wyf well heb gael ei meddwl?Casglwyd 1908 yn Whitchurch, Caerdydd gan Mrs Mary Davies. |
Yonder is my sweetheart down in the orchard, Too rum di ro rum di raddle diddle dal; O that I were there myself, Too rum di ro rum di raddle diddle dal; There is the house, and there is the barn; There is the door of the cowshed open. Faldi raddle diddle dal, faldi raddle diddle dal, Too rum di ro rum di raddle diddle dal. Yonder is the wonderful branched oak, With a look upon it so affectionate, I will stay in its shade Until my sweetheart comes to meet me. I set my mind on a tender girl, Her who almost broke my heart, And I caused her too To weep somewhat for me also. Yonder is the harp, yonder are the strings; What good is it to me, with no-one to play it? Yonder is the lively, delicate maiden; What good is that without getting her attention?tr. 2017 Richard B Gillion |
|