Dan nawdd yr Ysgol Sul, mor hardd, Yw gwel'd fath dyrfa lon, Dan ofal ein hoff athrawon doeth, O fewn yr Ysgol hon; - Mor hyfryd yw darllen gair ein Duw, Rhwng cloriau'r Beibl coeth, Trysorau ond eu meddu wna, Holl blant y wlad yn ddoeth. Yn mlaen, Yn mlaen, Yn mlaen yn wrol ni awn, awn. Mewn rhinwedd dysg a dawn, Dyrchafwn ein cân i'r Ysgol Sul, Ei henw tra fyddwn mawrhawn. Dan nawdd yr Ysgol Sul ni gawn, Wir fwyniant a lleshad, Derbyniwn wir faeth i'r enaid drud, A gwir fendithion mad; Dymunwn gael aros dan ei nawdd, Nes treulio'n hoes i ben, Ac yna fyn'd o'r Ysgol Sul, I wynfyd nefoedd wen.Meurig Aman Côr y Plant 1875 Tôn gan William Aubrey Powell |
Under the protection of the Sunday School, so fine, Is seen such a cheerful throng, Under the care of our beloved wise teachers, Within this School; - How delightful is reading our God's word, Between the covers of the pure Bible, Treasure but to possess them makes, All the children of the land wise. Onward, onward, Onward bravely we go, we go. In the merit of learning and talent, Let us raise our song to the Sunday School, Its name while ever we be let us magnify. Under the protection of the Sunday School we may get, True enjoyment and benefit, Let us receive true nourishment for the dear soul, And true worthy blessings; Let us ask to get to stay under its protection, Until spending out our lifespan, And then going from the Sunday School, To the blessedness of bright heaven.tr. 2018 Richard B Gillion |
|