gollodd y ffordd ar eira, yn y nos, wrth ddyfod dros y Mynydd o Ddyffryn Clwyd i Gilcain. Gogoniant a ganaf i Dduw, mi addawaf, A chalon, ni chelaf, diolchaf bob dydd, Am iddo fy nghadw ar eira mor arw, Rhag marw'r brau salw breswylydd. Mae'n rhyfedd fy nghanfod mawr heno mor hynod, O'r mynydd a'r man-ôd yn dyfod i dŷ, Drwy'r niwl o'r anialwch, maith hollol a th'wllwch, Mewn eithaf tawelwch i'm teulu. Fe f'asai'n anniddan fyw heno fyr hunan, Mewn t'w'llwch, tu allan, heb drigfan i droi, Ar gŵr y Foel Famma'n main orwedd mewn eira, Fel dafad mewn saldra'n isel-droi. Hi f'asai'n gryn g'ledi i mhriddell ymroddi, Neu aros i oeri a rhewi'n yr hin, Heb le gwell i orwedd, neu gael un ymgeledd, Na daear oer noethaidd neu eithin.Edward Jones 1761-1836 Cofiant Edward Jones 1839 [Mesur: 12.11.11.9] |
lost his way in the snow, at night, while coming across the Mountain from the Vale of Clwyd to Gilcain. Glory I shall sing to God, I promise, With heart, I do not lie, I shall give thanks every day, For his saving me in snow so rough, From the death of the frail, poorly citizen. It is wonderful I was found on such a great, notable night, From the mountain and the driven snow coming home, Through the fog through the wholly vast wilderness, and darkness, In extreme stillness to my family. I would be disconsolate to live this short night only, In darkness, outside, with no dwelling to turn to, On the corner of Moel Famma sharply lying in snow, Like a sheep in sickness getting depressed. It would be quite a hardship to my grave to resign myself, Or stay to chill and freeze in the weather, With no better place to lie, or to get any succour, Than cold, bare earth or gorse.tr. 2018 Richard B Gillion |
|