I ble 'rwyt ti'n myned,
fy ngeneth ffein gu?
Myned i odro,
O Syr, mynte hi:
O'r ddwy foch goch,
a'r ddau lygad du,
Draw wrth y mynydd
y gwelais hi.
A gaf fi ddod gyda thi,
fy ngeneth ffein gu?
Cewch os y mynnwch,
O Syr, mynte hi:
O'r ddwy foch goch,
a'r ddau lygad du,
Draw wrth y mynydd
y gwelais hi.
A gaf dy gusanu,
fy ngeneth ffein gu?
Cewch os y mynnwch,
O Syr, mynte hi:
O'r ddwy foch goch,
a'r ddau lygad du,
Draw wrth y mynydd
y gwelais hi.
Beth yw dy waddol
fy ngeneth ffein gu?
Cymaint ag y welwch,
O Syr, mynte hi:
O'r ddwy foch goch,
a'r ddau lygad du,
Draw wrth y mynydd
y gwelais hi.
Yna ni'th briodaf,
fy ngeneth ffein gu;
Ni ofynnais ichwi,
O Syr, mynte hi:
O'r ddwy foch goch,
a'r ddau lygad du,
Draw wrth y mynydd
y gwelais hi.
traddodiadol
|
Where art thou going,
my fair dear girl?
Going to milk,
O Sir, said she:
From the two red cheeks,
and the two dark eyes,
Yonder by the mountain
I saw her.
May I come with thee,
my fair dear girl?
You may if you insist,
O Sir, said she:
From the two red cheeks,
and the two dark eyes,
Yonder by the mountain
I saw her.
May I kiss thee,
my fair dear girl?
You may if you insist,
O Sir, said she:
From the two red cheeks,
and the two dark eyes,
Yonder by the mountain
I saw her.
What is thy dowry
my fair dear girl?
As much as you see,
O Sir, said she:
From the two red cheeks,
and the two dark eyes,
Yonder by the mountain
I saw her.
Then I shall not marry thee,
my fair dear girl?
I did not ask thee,
O Sir, said she:
From the two red cheeks,
and the two dark eyes,
Yonder by the mountain
I saw her.
tr. Richard B Gillion
|
|