O dlysion fythod Cymru, Sy'n mygu yn y glyn, Ac ar y gwyrddion lethrau, A'u muriau oll yn wyn! Mae'r gwenyn wrth eu talcen, Neu gysgod clawdd yr ardd, A'r rhosyn coch a'r lili O'u deutu yno dardd. O dawel fythod Cymru! Mor ddedwydd ydych chwi! Er bod heb fawredd breiniol, Nac un daearol fri; O'ch mewn y triga'n wastad Y cariad cu a'r hedd, Nad ydynt yn berthynol I'r ymerodrol sedd. O hawddgar fythod Cymru, Sy'n gwenu ger y nant, A'u gerddi'n llawn o flodau, A hwythau'n llawn o blant; Mor glaer a'r dŵr tryloew Yw llygaid y rhai bach, A'u gruddiau, fel y rhosyn, Yn brydferth gochwyn iach. O ddistaw fythod Cymru, Sy'n mhell o sŵn y dref! Ni flinir chwi gan derfysg, Nac un anfoesol lef; Ni thyr ar eich distawrwydd Ond chwarddiad llon y plant, A sibrwd dail y goedwig, A murmur mwyn y nant. O lwydion fythod Cymru Sy'n llechu is y llwyn! Er bod heb furiau mynor, A'u to yn wellt neu frwyn; O'u mewn mae llawer angel Yn hoffi troi ei ben, I syllu mewn gorfoledd Ar etifeddion nen. O dirion fythod Cymru! O'u mewn ar doriad gwawl, Ac yn y coed o'u hamgylch Y plethir odlau mawl; Y feinir gân yn gynar, A'r adar gyda hi, Eu diolch-gerdd foreuol Am râd eu Nefol Ri. O annwyl fythod Cymru! Ni fedd un wlad eu hail; Na lygrer eu haelwydydd, Na sigler byth eu sail! Byth, byth, mor ber a'r blodau Sy'n gwisgo siriol wên, Ar fryn a dôl o'u deutu, Bo Bythod Cymru hen!Evan Jones (Ieuan Gwynedd) 1820-52 [Mesur: 7676D] Gwelir: O lwydion fythod Cymru |
O pretty cottages of Wales, Who smoke in the vale, And on the green slopes, With their walls all white! The bees are at their gable, Or the shadow of the garden bank, And the red rose and the lily About them are springing forth. O quiet cottages of Wales! How happy are you! Although being without privileged majesty, Nor any earthly renown; Within you dwell constantly The dear love and the peace, They are not related To the imperial seat. O beautiful cottages of Wales, who are smiling by the stream, With their gardens full of flowers, And they in turn full of children; As clear as the pellucid water Are the eyes of those little ones, And their cheeks, like the rose, Beautifully ruddy-white healthy. O silent peaceful of Wales, Who are far from the noise of the town! You are not grieved by tumult, Nor any immoral cry; Nothing breaks upon your quietness But the cheerful laughter of the children, And the whisper of the forests leaves, And the gentle murmur of the stream. O grey Cottages of Wales, Who lurk under the grove, Although without walls of marble, And their roofs straw or reeds; From within them is many and angel Loving to turn his head, To stare in jubilation On the heirs of heaven. O tender Cottages of Wales, From within at the break of dawn, And in the wood around them Are woven the verses of praise; The lass who sings early, And the birds with her Their morning thanksgiving poem For the grace of their heavenly Lord. O dear Cottages of Wales, No land possesses their equal, - Their hearths shall not decay, Their foundation shall not be shaken! Never, ever, so sweet as the flowers That are wearing a cheerful smile, On hill and meadow about them, Be the Cottages of old Wales!tr. 2021 Richard B Gillion |
|