'Rwy'n methu peidio wylo, Wrth feddwl am fy mam Sydd yn y pridd yn gorwedd, A minau'n cael fath gam: Ac os rhaid yw, mi dd'wedaf Pam 'rwyf mor drist fy ngwedd, Fy nhad, fy nhad, sydd feddw, A'm mam bach yn y bedd. Mi gofiaf byth ei golwg Ychydig bach yn ol; Yn ddystaw hi'm cofleidiai Yn serchog yn ei chôl: Disgynai dagrau poethion Yn gyflym ar fy ngrudd; Ond 'nawr mae'i mynwes gynhes Yn oer o dan y pridd. 'Rwy'n cofio 'nhad yn feddw Y noswaith gynta' erioed, Aeth gwedd fy mam yn welw Wrth glywed swn ei droed; Ca'dd yn y tro'r fath archoll, Fu'n ddystrwy llwyr i'w hedd; A bellach 'r wy'n amddifad, - Mae 'mam bach yn y bedd.Eleazar Roberts 1825-1912 Y Delyn Aur 1868
Tôn [7676D]: Rwy'n Methu Peidio Wylo |
I cannot stop weeping, While thinking about my mother Who is in the soil lying, And I getting such a wrong: And if there must be, I say Why I am so sad looking, My father, my father, is drunk, And my little mother in the grave. I will ever remember her look A little while ago; Quietly she was embracing me Affectionately in her bosom: Hot tears would fall Quickly on my cheek; But now her warm bosom is Cold under the soil. I remember my father drunk The first night ever, My mother's countenance went pale On hearing the sound of his feet; She got at the time such a wound, That completely destroyed her peace; And henceforth I am an orphan, - My little mother is in the grave.tr. 2019 Richard B Gillion |
|