Y gloyw ddwr, y gloyw ddwr, A'i ffrydiau llon a ffri, Caiff eraill rin y melus win, Ond y gloyw ddwr i mi. I fyny'r bryn neu waelod glyn, Heb arno glo na llen, Y tardd yn wir yn risial clir, Dan wenau haul y nen. Y glowy ddwr, y gloyw ddwr, A'i ffrydiau llon a ffri, Caiff eraill rin y melus win, Ond y gloyw ddwr i mi. Bu Israel, do, mewn anial fro, Am ddegain mlynedd faith, Yn yfed dwr, yn llon bob gwr, Heb na gwin na diod chwaith. O'r graig i ma's, yn afon fras, Y daith heb glais na chlwy' I loni gwedd, mewn hyfryd hedd, Hi deithiodd gyda hwy. Mae diod gref yn peri llef, A chwynion fyrdd a cham; A dagrau sydd yn gwlychu grudd, Y dyner wraig a'r fam; Ond diod rad ein hynaf dad, Ordeiniodd nef i ni, 'Does gwaed yn bod, na dagrau 'rio'd, Wedi ' hanafau hi.Thomas Levi 1825-1916 Y Delyn Aur 1868 Tôn [8686D+8686]: Y Gloyw Ddwr (G Gwent) |
The clear water, the clear water, And its streams cheerful and free, Others may get the merit of the sweet wine, But the clear water for me. Up the hill or bottom of a vale, With neither lock nor sheet over it, Issues truly crystal clear, Under the smile of the sun of the sky. The clear water, the clear water, And it's streams cheerful and free, Others may get the merit of the sweet wine, But the clear water for me. Israel did, yes, in a desert vale, For forty long years, Drink water, cheerfully every man, Without either wine nor drink either. From the rock out, as a copious river, It came with neither bruise nor wound To cheer a face, in delightful peace, It travelled with them. Strong drink causes a cry, And a myriad complaints and injury; And tears which are wetting the cheek, Of the tender wife and the mother; But the free drink of our oldest father, Heaven ordained for us, There be no blood, nor tears ever, After her being injured.tr. 2016 Richard B Gillion |
|