Y PRYDYDD Dydd da fo i'r Gwcw loyw, lân, A'th firi gân ar forau; Mae sôn dy barch am sŵn dy big, Wers diddig, er ys dyddiau; I diwnio'r twyn, amdanat ti, 'Roedd mwy na mi'n ymofyn Paham y rhoddaist gymaint oed, Cyn deffro yng nghoed y Dyffryn, Gan fod mor ffrwythol lwyddol les, Fawl addas, wres y flwyddyn? Y GOG Y Prydydd mwyn, pa raid i mi Mo'r gwyro i ti nag arall; Ond i'r sawl i'm henwi sydd Yn ôl ei rybudd diball? Yr ydwyf fi'n cyflawni, clyw, Orchmynion Duw hyd angau; I foddio Nêr na fydd yn ôl O'th daith amserol dithau; Ar drechu trachwant, blysiant bla Daearol, gwna dy orau. Y PRYDYDD Ai rhybudd wyd, a'th laslwyd liw, Yr edn wiw ei anrhydedd, Ar fy nifethu'n clymu clod, Fwyn awen, fod fy niwedd? A geiriau braw i'm gyrru'n brudd, Gosodaist newydd sydyn — I farw o'i fodd ni fyddai neb Boddlonus wyneb blwyddyn; A'r byd amserol deithiol do Gad eto im dopio dipyn. Y GOG Er gwyched meillion hinon ha', Na chynnig, gwylia, chwennych Ond a roddo Duw i'th ran, Ar wedd dy oedran edrych; Yr wyt yn sefyll ar naw saith, O flwyddi'th ymdaith yma, Ar hyn o oedran, gyfan gŵyn, Bu farw'r forwyn bura', Oedd fam dy Brynwr, Barnwr byd, Mesurwr hyd dy yrfa. Y PRYDYDD Mae sôn yn wir am seithiau naw, I'm gostwng daw dy gwestiwn, Y bydd yr ola' o'r rhai sy'n byw, Yn trwsio at ryw altrasiwn; Moes dy gyngor beth a wnaf, Pa fodd yr af i rifo Fy nyled drom; mae'n llom fy llaw, I'm Prynwr draw ympirio; Yn brysur iawn pan basio'r oes, I'm gwedd nid oes ymguddio. Y GOG Am bob drygioni, ffansi ffôl, Difrifol edifara; A thafl y byd o'th ôl ymhell, Am drysor gwell ymdrwsia; Edifeirwch gwir, a ffydd Yng Nghrist, a fydd yn foddion I'th ddwyn, er gwaethaf dy holl gas, Yn siŵr i ddinas Seion. Lle cei'n dragwyddol fywiol fyw, Yng ngolwg Duw a'i angylion. Y PRYDYDD Dduw, maddau i mi fy meiau mawr, Pob dydd ac awr, a gerais; A'th holl orchmynion cyfion cu, Ni wiw mo'r taeru, torrais; Nac edrych, Dad, nid ydwy' ond gwan, Ar lawnder annheilyngdod; Ond ar haeddiant Oen Duw'r hedd, A'i sanctaidd fuchedd uchod; Er mwyn ei gariad ar y groes, Nag omedd, moes dy gymod.Owen Gruffydd 1643–1730 Tôn [MSD 8787D]: Blodau'r Dyffryn |
THE POET Good day to the bright, pleasant Cuckoo, And thy merry song on mornings; Mentioning respect of thee, for the sound of thy beak, Has been a genial lesson for many days; To tune the knolls, about thee, There were more than I asking Why thou gavest so much time, Before awaking in the wood of the Vale, Since so fruitful, prosperous, beneficial, Praiseworthy, is the warmth of the year? THE CUCKOO O dear Poet, why should I not Turn to thee, rather than anyone else; But to such as are naming me According to their unfaltering warning? I am fulfilling, hear, The commandments of God until death; To please the Master who will not be According to thy temporal journey; To overcome craving, earthly fallen Pleasure, do thy best. THE POET Art thou a warning, with thy blue-grey colour, Thou bird worthy of his honour, That on my destruction binding acclaim, Dear muse, be my end? With words of terror to drive me sad, Thou set forth sudden news - To die voluntarily no-one would, O pleasing face of the year; And the travelling, temporal world, yes Let me yet surpass for a while. THE CUCKOO Despite the brilliance of the clovers of the the fair weather of summer, Do not offer, watch thou, long only For what God gives as thy portion, Look upon the countenance of thy age; Thou art standing at nine sevens, Of the years of thy journey here, At this age, most lamentably, Died the purest maiden, Who was the mother of thy Redeemer, The Judge of the world, The Measurer of the length of thy course. THE POET Mentioning nine sevens is true, To humble me comes thy question, The last of those who are living shall be, Preparing for some alteration; Give thy counsel whatever I do, However I go to count My heavy debt; my hand is bare, For my Redeemer yonder to appear; Very hurriedly when the age passes, To my sight there is no hiding. THE CUCKOO For all evils, foolish fancy, Seriously repent; And fling the world behind thee, For better treasure prepare thyself; True repentance, and faith In Christ, shall be means To bring thee, despite all thy enmity Surely to the city of Zion. Where thou shalt get eternally vitally to live, In the sight of God and his angels. THE POET God, forgive me my great faults, Every day and now, which I loved; And all thy dear righteous commandments, Contradicted in vain, I broke; Do not look, Father, I am only weak, Upon the fullness of unworthiness; But upon the merit of the Lamb of the God of peace, And his sacred virtue above; For the sake of his love upon the cross, Do not refuse, grant your reconciliation.tr. 2024 Richard B Gillion |
|