yn Lanach na Gwyrryw E luniwyd Adda, gynt, heb lai, O ddyrys glai y ddae'ren; Yn llwyd a brwnt e'i gwnaed o bridd, Heb gymmal iddo'n gymmen. A brych yw'r gwrryw fyth fel hyn, A melyn a chymmalog, A llwyn o eithin ar ei ên Islaw y talcen tolciog. Ond Efa ddaeth yn hardd-deg iawn, (Gan gael yn llawn ei llunio,) Yn syw a da, o ais y dyn, O'r priddyn, 'nol pureiddio. Ac fyth y Fenyw'n deg a gawn, A gwiwlan iawn e'i gwelir: Ei dwy-ên glir sy'n denu gwlad At hon, o gariad gweirwir. |
Cleaner than a Male Adam was designed, long ago, no less, From the troublesome clay of the earth; Grey and filthy he was made of soil, Without a joint to him neatly. And a blemish is the male forever like this, And yellow and cloudy, With a grove of gorse on his chin Below the crumpled forehead. But Eve who came very beautifully fair, (While getting fully designed,) Splendidly good, from the bosom of the man, From the clod, after purification. And forever the Female fair we get, And very worthily pure to be seen: Her clear two-chin is attracting a land To this, from eloquent love. tr. 2016 Richard B Gillion |
|