Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant Eisteddai gwraig weddw yng nghanol ei phlant; Ar ieuaf ofynnodd wrth weld ei thristad "Mae'r nos wedi dyfod ond ble mae fy nhad?" Fe redodd un arall gwyneblon a thlws, I'w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws; Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio y wlad A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad. Y sêr a gyfodent mor hardd ag erioed, A gwenai y lleuad drwy ganol y coed; A'r fam a ddywedodd, "Mae'th dad yn y nef Ffordd acw, fy mhlentyn – ffordd acw mae ef.' Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant, Ymddiried i'r Nefoedd mae'r weddw a'i phlant; Ni fedd yr holl gread un plentyn a wad Fod byd anweledig, os collodd ei dad. |
In an unadorned cottage on the bank of the stream Sat a widow amongst her children; The youngest demanded on seeing her sadness "The night has come but where is my father?" Another ran cheerfully faced and pretty, To await him home on the doorstep; He saw the evening covering the land And broke his heart waiting for his father. The stars would rise as beautiful as ever, The moon would smile through the middle of the wood; 'Twas the mother who said, "Thy father is in heaven Yonder, my child - yonder he is." In an unadorned cottage beside the stream, Trusting to heaven are the widow and her children; The whole creation possesses no child who denies That there is an unseen world, if he lost his father. tr. 2018 Richard B Gillion |
|