O! deffro f'Awen cân yn awr, Ar dòriad gwawr y dydd; Mawr y byddioldeb, yn ddi-au, O godi'n foreu sydd; Wrth wneuthur hyn, O! clywch i gyd, Cawn iechyd hyfryd iawn; Mae hyn yn foddion pur di-lys At gynnydd dysg a dawn. Rhyw dêr hyfrydwch, yn ddi-au, A rhyfeddodau fydd I'w gwel'd yn llon yn llwybray'r lli', Nes codi'r meddwl prudd; Cawn, er ein cysur, wel'd yr haul Yn d'od o'i araul gell, Yr hwn, fel cawr, a lawenha, I redeg gyrfa bell. Gwasgara ei belydron gwych O entrych nef i lawr, Nes lloni'n llwyr ein daear brudd, - Mor geinwych fydd ei gwawr! Holl anian yn adfywio'n llon; Hyfrydsain gwynlon fydd Gan adar mân, yn moli'n bêr Ein Nêr, arḍriad dydd. Ein hysbryd a adlona'n wir Wrth swn eu difyr dôn, Eu hadlais peraidd rodda'n rhwydd Wir fawl i'r Arglwydd Iôn; Ein myfyrdodau 'hed yn glau, Ceir drychfeddyliau mâd, I godi'n llon, trwy lais y llu, I freiniol dŷ ein Tad. Wrth wel'd y gwlith arianaidd ar Y ddaear liwgar, lâs, Adgofiaw wnawn am Dduw ei hun Yn noddi dyn â'i ras: Cofleidio gwaelaidd ddynol-ryw Wnaeth Duw yn foreu iawn; Anfeidrol ddarpar iddynt wnaeth, Sef Iachawdwriaeth lawn. Ryw foreu cain, ar dòriad dydd, Y deuodd newydd da, Am bur Iachawdwr, peraidd ddawn, I fyd yn llawn o blâ; Angylion gwynion roddent drem Uwch Bethlehem yn wir; Cyfoeddent yno'r Iesu mau, Yn glau ar foreu clir. Clywch, bawb sy'n agos ac yn mhell, Nid oes gwaith gwell yn bod, Na chodi gyda thòriad dydd, A rhoi i'r Llywydd glod, Gan afail mewn rhyw orchwyl doeth, - Ac yna cyfoeth cawn; Derbyniwn gan yr Arglwydd Iôn Bob rhyw gysuron llawn. O godi'n foreu, yn ddi-au, 'Does neb a fyddai waeth, - Yr henwr llesg ga'i gysur llon, A'r ieuanc fwynlon faeth; Gan hyny, deued pawb, heb goll, Trwy holl ororau'r llawr, I 'mofyn cysur maith di-ri' Trwy godi gyda'r wawr. |
Oh, awaken, my Muse! Sing now, At the breaking of the dawn of the day; Great the triumph, without doubt, Of rising in the morning is; By doing this, oh, hear all of you! We may get very delightful health; This is medicine pure and unfailing To increase learning and talent. Some clear delight, without doubt, And wonders shall be To see cheerfully in the paths of the flood, Until raising the sad thought We may get, to our comfort, to see the sun Coming from his shining cell, He, like a giant, will rejoice, To run his distant course. He will scatter his brilliant rays From the vault of heaven down, Until cheering completely our sad earth, - How splendid will be his dawn! All of nature reviving cheerfully; A delightful pleasant sound there will be By small birds, praising sweetly Our Lord, at the break of day. Our spirit he will truly recreate By the sound of their entertaining tune, Their sweet echo rendering freely True praise to the Sovereign Lord; Our meditations fly quickly, Beneficial mental images are to be had, To raise cheerfully, through the voice of the host, To the privileged house of our Father. On seeing the silvery dew on The colourful, blue earth, Let us recall about God himself Protecting man with his grace: Embrace base human-kind Did God in a real morning; Immeasurable preparation for them he made, That is, full Salvation. Some fine morning, at the break of day, Good news came, About a pure Saviour, a sweet gift, To a world full of pestilence; White angels gave a look Above Bethlehem truly; They published there my Jesus, Eagerly on a clear morning. Hear, all ye who are near and far, There is no better work, Than rising with the break of day, And rendering to the Governor praise, By taking hold of some wise task, - And then we may get wealth; Let us receive from the Sovereign Lord Every kind of full comfort. From rising in the morning, without doubt, There is nothing that would be bad, - The feeble old man gets his cheerful comfort, And the young delightful nourishment; Therefore, let all come, without exception, Through all the hours below, To ask for unnumbered vast comfort Through rising with the dawn. tr. 2015 Richard B Gillion |
|