Yfais atat, glas dy lygad, A trwy bur serch a ffyddlon gariad; Yfa dithau, ddwyael feinion, At y mwya' a gâr dy galon. Do, bûm ganwaith yn dy garu, Feinir wen, a thithau'n gwadu; Ond yn awr, mae rhaid cyfadde, Beth a wnaet pe gwadwn inne? Afon Conwy'n llifo'n felyn, Mynd â choed y maes i'w chanlyn, Ar ei gwaelod mi rof drithro Cyn y rhof fy nghariad heibio. Mi ddymunais fìl o weithiau Fod fy mron o wydyr golau, Fel y gallai'r fun gael gweled Fod y galon mewn caethiwed. Acw draw mae fy nau lygad, Acw draw mae f'annwyl gariad, Acw draw dymunwn inna Gysgu'r nos a chodi'r bora. O f'anwylyd, dywed imi, P'le mae gwreiddyn ffynnon ffansi - Ai yn dy gorff ai yn dy galon, Ai yn dy lân wynepryd tirion? Hen Benillion | Ancient Verses |
I drank to thee, the blue of thine eye, And through pure affection and faithful love; Drink thou too, fine two eyebrows, To the greatest who loves thine heart. Yes, a hundred times have I loved thee, Fair graceful maiden, and thou hast refused me; But now, thou must confess, What wouldst thou do if I refused thee? Conwy River flowing brown, Taking the wood of the field to follow it, On its bed I would place myself thrice Before I put my love aside. I have wished a thousand times For my breast to be of clear glass, That the beloved might get to see That the heart is in captivity. Over yonder are my two eyes, Over yonder is my beloved love, Over yonder I too wish to be Sleeping by night and rising at morning. O my beloved, tell to me, Where is the root of the fount of fancy - Whether in thy body, or in thy heart, Or in thy fair, tender countenance? tr. 2024 Richard B Gillion |
|