Fy ngwir enaid luniaidd lân, Clyw dostur gân a yrrodd Yr un Cristion gorau'n fyw Yn nes' at Dduw a'th garodd. O wir drymder canu 'rwy', Nid o nwy' na maswedd, Ond un modd â'r alarch gwyn Yn canu cyn ei ddiwedd. Afrad im dy ganmol, fun, Na'th liw, na'th lun, lle delid, Ond wrth ynfyd ffôl neu ddall, Ni ddichon ddeall glendid. Ni bu ac nid oes, deuliw'r od, Ni ddichon fod yn Nghymru, Fab a garodd frech yn fwy Nag yr wy' i'n dy garu. Gwn y gwyddost bart o'm clwy' A maint yr wy'n dy garu, Eto'r wyt â mi - Ow, Pam? - Yn gwneuthur cam ar hynny. Nid am gyfoeth, - Duw'n dyst, - ferch, Ond o serch a chariad I ti'n unig, y rhois i Fy mryd a'm ffansi arnad. Er cyfrannu o Dduw im lai O dda na rhai a'th geisiodd, Er a'i gwado, mi a'i gwna'n dda Mai fi yw'r mwya' a'th garodd. Odid anfoes, llid, na bâr, Rhwng dau a gâr yn ffyddlon; Gwell ychydig drwy rad Duw, Na'r byd, a byw'n anfodlon. |
My true, comely, pure soul, Hear the misery of a song that the single Best Christian alive nearest to God Who loved thee sent. From true heaviness I am singing, Not from passion or wantonness, But the same way that the white swan Sings before its end. A waste for me to praise thee, darling, Or thy colour, or thy appearance, where one should, But for a foolish or blind madman, It is impossible to understand purity. There was not and there is not, twice as fair as the snow, Nor can there be in Wales, A lad who loved a lass more Than I love thee. I know thou knowest part of my wound And how my I love thee, Still thou art, with me - Ow! Why? - Doing such an injury to me. Not for wealth, - God is witness, - girl, But from affection and love For thee alone, I set My attention and my fancy upon thee. Although allotting from God to me less Of goods than those thou didst seek, Although denying it, I shall make good That I am the greatest who loved thee. There is scarcely discourtesy, anger or wrath Between two who love faithfully, Better a little through God's grace, Than the world, and living dissatisfied. tr. 2021 Richard B Gillion |
|