Cathl y Gair Mwys

Hi aeth f'anwylyd yn G'langlaea'

Cathl y Gair Mwys
Hi aeth f'anwylyd, yn G'langaea',
Ti wyddost wrth y rhew a'r eira;
  Dywed imi'n ddigyfrinach,
  Pam na wisgi lewis bellach?

Pan fo'r hin yn oer aneiri',
A'r cynfasau'r nos yn rhewi,
  Gwybydd, Gwen, mai dyna'r amser
  Y gwnâi lewis iti bleser.

Rhai rônt lewis wrth eu breichiau,
Rhai rônt lewis wrth eu cefnau,
  Cymer ffasiwn newydd, Gwenfron,
  Dyro lewis wrth dy ddwyfron.

Di gei grys o'r holand meina',
Di gei own o sidan siopa,
  Di gei'r ffasiwn a ddymunech,
  Di gei lewis fal y mynnech.

Gwelais ganwaith lewis gwynion,
Gan gyffredin a bon'ddigion,
  Am dy weled mi rown fawrbris
  Y dda dy le, yn ddu dy lewis.

Arferol i bob merch a wel'is
Am ei breichiau wisgo llewis;
  I'r gwrthwyneb dyro dithau,
  Am dy lewis gwisg dy feichiau.

Gwelais lawer merch na rusa
Yn ei llewis flaene pinna;
  Tithau fuost yn fwy dibris,
  Saethau blennaist yn dy lewis.

Oer yw'r tŷ heb dân y gaea',
Oer yw'r cenllysg; oer yw'r eira,
  Oer yw'r hin pan fo hi'n rhewi,
  Oer yw merch heb lewis ganddi.

Bydd di fwyn a rhwydd dy galon,
Paid ag edrych arna'i'n ddigllon;
  Rhag ofn dyfod angau dibris,
  Ac ymaelyd yn dy lewis.

Mae dy siwt i gyd yn gryno,
Ond un peth sydd eisiau eto;
  Nid yw hynny i gyd mo'r llawer
  Ond ddyw lath o lewis ofer.

Ar dy lewis pe cait gynnig,
Gwn y gwerthit am ychydig;
  Pe bait unwaith wei 'marfer,
  Ni chymrit am dy Lewis lawer.

Peter Lewis
Y Flodeugerdd Gymraeg 1931

The Ditty of the Ambiguous Word
She became my beloved, on All Saints Day,
Thou knowest by the ice and the snow;
  Tell me unsecretly,
  Why thou wearest no [sleeves/Lewis] any more?

When the climate be unaccountably cold,
And the canvasses of the night freezing,
  Know, Gwen, that this is the time
  That [sleeves/Lewis] would give thee pleasure.

Some put sleeves on their arms,
Some put sleeves on their backs,
  Take a new fashion, Gwenfron,
  Put [sleeves/Lewis] on thy breasts.

Thou shalt have a shirt of the finest holland,
Thou shalt have a gown of [silk/impulse]-shopping,
  Thou shalt have the fashion thou dost request,
  Thou shalt have [sleeves/Lewis] as thou wilt.

I have seen a hundred times white sleeves,
By commoners and gentlefolk,
  To see thee I would pay a high price
  Good thy place, black thy [sleeves/Lewis].

It is usually for every girl I have seen
Around their arms to be wearing sleeves;
  On the contrary grant thou,
  For thy [sleeves/Lewis] to be around thy arms.

I have seen many a girl not hesitate
To pin her sleeves in front;
  Thou wast more priceless,
  Arrows thou didst plant in thy [sleeves/Lewis].

Cold is the house without the winter fire,
Cold are the hailstones; cold is the snow,
  Cold is the climate when it is freezing,
  Cold is the girl without her [sleeves/Lewis].

Be thou gentle and generous thy heart,
Do not look upon me bitterly;
  Lest heedless death come,
  And seize thy [sleeves/Lewis].

Your suit is all complete,
Only one thing it needs yet;
  This is not much at all
  Only two yards of empty [sleeves/Lewis].

On thy sleeves if thou didst get an offer,
I know thou wouldst sell for a little;
  If thou didst get used to him,
  Thou wouldst not accept much for thy Lewis.

tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~