Mae awelon dydd yn deffro, Gwelwch ruddiau'r boreu'n gwrido; A glywch chwi sain corn hela'r Gelli Yn rhoi tafod i'r Clogwyni? Twrf helyddion - cŵn yn udo, Pob peth megys yn cydfloeddio, "Heddiw ydyw'r dydd i ddala Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa!" Dacw'r gywiog dyrfa'n cychwyn, Ac yn mlaenaf yn y fyddin Gwelir ar ei helfarch gwisgi Goneddigaidd wr y Geli: A'i gâr ymffrost Blaen-y-Corrwg, Mêl ac enaid hil Morganwf: O gwm i fynydd, dacw'r dyrfa 'Nawr yn ymyl Craig-y-Byllfa. Oergi'r cŵn sydd acw'n dangos Fod llochesau'r cadno'n agos, Clywch y floedd sy'n crugo'r creigiau, Dacw'r cadno'n llamu'r rhiwiau, I Gwmaman, i Gwmgwyngul, A chŵn y Gelli yn ei ymyl: Rhy ddiweddar edifara Gadael cilfach Craig-y-Byllfa. Gwelwch, ni wna nant na chlogwyn Beri i Nimrod wyro mymryn; Leader, Guider, Topper, German, Fel yn hedeg drwy Gwmaman: Ringwood, Famous, Countess, Collier, Blucher, Stately, - am gyflymder Haeddant sylw yn ngherdd hela Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa. Gan mor gyflym y mae'r cwmni 'N gado ar ôl y coed a'r llethri, Y mae'r llethri fel yn neidio, A'r coedwigoedd fel yn dawnsio. Gwelwch fel y mae'r helyddion Yn neidio'r cae, yn rhydio'r afon: Hwy na hir y cofir hel Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa. Troes yn awr, am nadd a chysgod, I'r Garreg Lwyd hen ffau llwynogod; Ond gwylwyr effro a chŵn yr Ystrad Yma dorent ar ei fwriad, At Graig-y-Llyn cyfeiria'n brysur, Ond prysurach ei erlidwyr; Rhy ddiweddar edifara Gadael cilfach Craig-y-Byllfa. Clywch y floedd sy'n rhwygo'r entrych, Mae'n carlamu Yng Nghwm Grefelych; At Bont Walbi hwylia'r cidwm, A thrwy'r coed wrth Aberpergwm; Mae yng Nghwm Nedd, ond ofer iddo Ddisgwyl hamdden i orphwyso: Rhy ddiweddar edifara Gadael cilfach Craig-y-Byllfa. Helwyr, meirch, a chwn yn ymlid, A'i troes yn ol, er cadw'i fywyd, At Graig-y-Llyn a'r Gorngoch eto, I'r Garreg Lwyd am le i ymguddio: Methai gyrrhaedd ffau ddiogel, - Dyna'r fonllef ar yr awel, "Daliwyd, daliwyd, daliwyd yma, Gadno cyfrwys Craig-y-Byllfa!" Nid hyn yw'r cyfan - dacw'r cwmni Wrth groesawgar fwrdd y Gelli, A gwydraid llawn, a chalon lawen Yn yfed "hedd a llwydd y nenbren": Yfed "Teulu Blaen-y-corrwg, A helwriaeth gwlad Morgannwg," A phob gwron a fu'n hela Cadno cyfrwys Craig-y-Byllfa. |
The breezes of the day are waking, See the cheeks of the morning blushing, Do ye hear the sound of the horn of the hunt of the Grove Putting a tongue to the cliffs? A crowd of hunters, dogs howling, Everything as if shouting together, "Today is the day to catch The crafty fox of Craig-y-Byllfa!" Yonder is the lively throng setting off, And foremost in the army To be seen on his agile hunting steed is The noble man of the Grove, And his companion, the boast of Blaen-y-Corrwg. The honey and soul of the tribe of Maorgannwg; From valley to mountain, yonder is the throng Now beside Craig-y-Byllfa. The yelp of the dogs is yonder showing That the lairs of the fox are near, Hear the shout which is plaguing the rocks! Yonder is the fox leaping the hills, To Cwmaman, to Cwmgwyngul, Whith the dogs of the Grove beside him Too lately regretting Leaving the nook of Craig-y-Byllfa. See, neither brook nor cliff shall Cause Nimrod to veer for a moment, Leader, Guider, Topper, German, As if flying through Cwmaman, Ringwood, Famous, Countess, Collier, Blucher, Stately, - for speed They merit mention in the poem of hunting The crafty fox of Craig-y-Byllfa. Since so fast is the company Leaving behind the wood and the slopes, The slopes are is if jumping, And the copses as if dancing. See how the jnters are Jumping the field, fording the river. Longer than ever will be remembered the hunting Of the crafty fox of Craig-y-Byllfa. He turned now for refuge and shadow To the Grey Rock - the old lair of the foxes; But alert watchers and the dogs of the Estate Here break on his purpose. To Craig-y-Llyn he heas hurriedly But more hurriedly his pursuers: Too lately regretting Leaving the nook of Craig-y-Byllfa. Hear the shout which is rending the sky, It is galloping in Cwm Grefelych; To Walbi Bridge the rascal flies, And through the wood by Aberpergwm. He is in Cwm Nedd, but in vain for him To expect leisure to rest: Too lately regretting Leaving the nook of Craig-y-Byllfa. Huntsman, steeds and dogs pursuing And he turns back, in order to keep his life, To Craig-y-Llyn and the Corngoch again, To the Grey Rock for a placeto hide: He would fail to reach the safe lair, - There is the cry on the breeze, "Caught, caught, caught here, is The crafty fox of Craig-y-Byllfa!" This is not all, - yonder is the company By the welcoming table of the Grove, With full glasses and joyful hearts, Drinking the peace and success of the roofbeam The dringing of the Family of Blae-y-corrwg, And the chase of the land of Morgannwg, And every hero who had been hunting The crafty fox of Craig-y-Byllfa. tr. 2016 Richard B Gillion |
|