"Heb Dduw, heb ddim, Duw a digon.") Deffro lên fy awenydd, O'th gysgfa, rho redfa rŷdd; I chwilio, trwy wych helynt, P'le'r oedd sêdd digonedd gynt, A ph'le'n awr, hoff lun eres, Mae ei thrigfan, loyw-lân lês. Dynion sy'n ymledanu Tros wledydd, aflonydd lu; Am ddigawn i'w chwyrn-lawn chwant, Garw ei flas, y gor-flysiant: Rhai am barch, ar bob archiad, Gwawr dewr lwydd, a geirda'r wlad: Eraill am gyfoeth iraidd, Yn gyflym eu rym, o'u gwraidd: Rhai am diroedd yn bloeddiaw, Taer eu byd yn tyrru baw: Er medd llawnder modd-wych, Llwyn o wae, nid llai eu nych. P'le ceir llawn ddigawn o dda, I ddynyn a'i meddianna? Heb Dduw Nêr, yn llawnder llon, (Dwys degwch) nid oes digon: Gyd ag ef, trwy wir grefydd, Dïogan sail, digon sydd; Digon i fyw, deg iawn fodd; Hefyd i farw o hy-fodd. Duw a thameid, wrth reidiau, O fara sych, 'wna frasâu: A'i meddo ef mewn modd iach, Er tlodi a hurt ledach, Enwog, gyfoethog, a fydd, Drwy gu-waith, yn drgywydd: Er croesau, neu donnau dig, Er iasau o ryw ysig; Er i'r corph gael ei orphen, A'i droi o'r byd, drwy awr ben, I fraenau, o'i fyw rinwedd, (Gwâl di-barch yw gwaelod bedd) Er hyn oll ef ni's colla, O rîn ei Dduw, a'i ran dda: Ei enaid, i'w goflaid gu, Iôn fyn ei ddŵyn i fynu; A'i lwch o'r bedd, i hedd hael, A gyfyd ef mewn gafael, I fod byth, â dilyth dôn, Mewn dwgwch, draw mewn digon. Wynebwn i'w adnabod, Yn Dduw i ni, lawn-dda nôd; Felly'n rhwydd cawn y llwydd llon, Da degwch, "Duw a digon."
WJ |
"Without God, without anything, God shall suffice.") Awaken, sheet of my poet, From thy sleeping-place, give a free run; To search, through a brilliant course, Where was the the seat of sufficiency once, And where now, dear wonderful picture, Is its dwelling-place, of bright-clean lace. Men who are spreading Across lands, a restless host; For sufficient for their rapidly-full lust, Rough its taste, they over-gratify: Some for reverence, at every bidding, The grey, brave dawn, and good word of the country: Others for fresh wealth, Fast their force, from their root: Some for lands shouting, Insistent their world piling muck: In order to possess the fulness of brilliant pleasure, A grove of woe, no less their grief. Where is to be got a full sufficiency of stock, For an individual man to possess? Without God the Lord, as a cheerful fullness, (Intense fairness) there is not enough: With him, through true belief, A basis without reproach, which is enough: Enough to live, very fair pleasure; Also to die from proud pleasure. God and a morsel, by necessities, Of dry bread, will make fatnesses: And to possess him in a healthy way, Despite poverty and stupid base lineage, Famous, wealthy, shall be, Through dear-work, in eternity: Despite crosses, or angry waves, Despite pangs of some wounded; Although the body get finished, And turned from the world, through a final hour, To fallow lands, from its living merit, (A dishonourable bed in the bottom of a grave) Despite all this he shall not lose, From the merit of his God, and his good portion: His soul, to his dear embrace, The Lord shall insist on bringing up; And his dust from the grave, to a generous peace, He shall raise with a grasp, To be forever, with an unfailing tune, In fairness, yonder in sufficiency. Let us face him to recognise him, As God to us, a fully-good aim; Thus freely we will get the cheerful prosperity, Good fairness, "God shall suffice." tr. 2015 Richard B Gillion |