Deuddeg Englyn i'r Gauaf

Daeth i'n gŵydd ryw arglwyddes

Deuddeg Englyn i'r Gauaf
Daeth i'n gŵydd ryw arglwyddes - uchel-drem
  Gwnaeth chwyl-dro anghynes;
  Er mor llỳm fu grỳm y gwres,
  Heno ni cheir ei hanes.

O'r Gogledd (rhyfedd fu'r hynt) -
    y rhodiodd,
  Ar edyn y rhew-wynt;
  Daeth yn ffrom, gwyddom, fel gynt,
  A thrymaidd yw ei thremynt.

Daeth hon a'i gweision i gyd - i'w gweini,
  Nes dêl Gwanwyn hyfryd;
  Y Gaua'n ben, O gwae'n byd!
  Oer odfa  mewn mawr adfyd.

E giliodd yr haul golau -
    a'i bûr hynt,
  Byrhäwyd y dyddiau;
  Ar dir nos hir sy'n neshau,
  A miloedd o gymmylau.

O Dduw! tymestloedd ddeuant, - yn fynych,
  Afonydd a lifant,
  Bryniau yn ochrau pob nant
  Yn furiau i'r llifeiriant.

Gwedi i hwn, gwelwn, gilio - i'r môroedd,
  Ac ymaros yno,
  Yr un dydd daw eira'n do,
  A chaddug i'n gorchuddio.

Yn ddiau tŵf y ddaear - attaliwyd,
  A'r teulu amaethgar;
  Y tylodion gweinion, gwâr,
  A gyrchwyd i ddwfn garchar.

Ac wedi rhew tew yn ein tir - di-frwd,
  Ac mewn deifr y gwelir;
  Och oerwynt! fe'n carcherir,
  Fe allai, 'n hyn felly'n hir.

Gyrwyd ein gwydd hygaraf -
    yn anhôff,
  Gan effaith y Gauaf;
  Dalen werdd, na cherdd, ni chaf
  Yn y frodir hyfrydaf.

Pan ddeuodd, gyrodd y gôg, -
    a'r wenol,
  I ryw annedd rywiog;
  Mae'n garchar i'r âr
      a'r ôg,
  Eu llais gyll llu asgellog.

Gwedi mae pum cysgadur, - (pa ryfedd)
  Yn dwyn profiad eglur
  Na chawsent hedd na chysur,
  Ond rhyndod, chwer'dod, a chûr.

Mi a âf i ymofyn - am annedd,
  A mwyniant i wanddyn:
  Os byw fyddaf, hònaf hyn,
  Y gwênaf pan ddêl Gwanwyn.

Absalom Roberts 1780?-1864
Lloches Mwyneidd-dra 1832

Twelve Verses to the Winter
There came to our view some lady - a high-gaze
  Which made an uncomfortable revolution;
  Although so sharp was the force of the heat,
  Tonight her history is not to be got.

From the North (amazing was the course) -
    she wandered,
  On the thread of the icy wind;
  She came fiercely, we know, as formerly,
  And heavy is her aspect.

She came with all her servants - to serve her,
  Until the delightful Spring should come;
  The Winter at an end, O woe our world!
  A cold spell in great adversity.

The sun of light retreated -
    and its pure course,
  The days were shortened;
  Over land a long night is approaching,
  With thousands of clouds.

O God, tempests are coming, - frequently,
  Rivers are flowing,
  Hills on the side of every brook
  As walls to the flow.

After this, we see, retreating - to the seas,
  And waiting there,
  The same day snow comes as a roof,
  And fog to cover us.

Doubtless shall grow the earth - it was paused,
  And the agricultural family;
  The weak, genial poor,
  Who were gathered in a deep prison.

And then thick ice in our land - unflowing,
  And in waters to be seen;
  Oh cold wind! we are to be imprisoned,
  It could, in this thus long.

Our most amiable countenance was driven -
    unpleasantly,
  By the effect of the Winter;
  Neither green leaf, nor verse, is had
  In the most delightful region.

When it came, it drove the cuckoo, -
    and the swallow,
  To some noble dwelling;
  It is a prison to the ploughed land
      and the cuckoo,
  Their voice a winged host loses.

Then there are five sleepers, - (what a wonder)
  Bringing a clear proof
  They had neither peace nor comfort,
  But a chilling, bitterness, and an ache.

I will go to ask for a dwelling,
  And enjoyment for a weak man:
  If live I sall, I will claim this,
  I will smile when Spring comes.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~