Rhan I Duw, cadw fechgyn mad, Dewr Feibion Cymru wlad, O! cadw fi! Amddiffyn, Arglwydd Dduw, Rhag aflwydd o bob rhyw, Tydi fy Nharian yw, O! cadw fi! Arglwydd y lluoedd gynt, Creawdwr tân a gwynt, O! cadw fi! Ar erchyll faes y gâd, Amddiffyn Nefol Dad, Tra'n brwydro'n erbyn brad, O! cadw fi! Amddiffyn, Arglwydd Iôr, Ar dir ac eang fôr, O! cadw fi! Tra'n ymladd dros fy ngwlad, Gorchfyga'r trais a'r brad, Rho'hth nawdd O! Nefol Dad, O! cadw fi! Rhan II Os trengaf yn fy ngwaed, Fy llef at Dduw, O! aed, O! derbyn fi! Yn nyfroedd oer y glyn, Trwy rin Calfaria fryn, Fy ngweddi y pryd hyn Fydd, Derbyn fi! I'r Wynfa dawel mwy, Uwch rhyfel erch a chlwy, O! derbyn fi! Lle na bydd dryll na chledd, Na dagrau, poen, na bedd, Gwlad wèn bytholfan hedd, O! derbyn fi.John LLoyd, Treffynnon. Dydd Nadolig, 1915. |
Part I God, keep the worthy boys, The brave sons of the land of Wales, Oh, keep me! Defend, Lord God, Against misfortune of every kind, Thou my Shield art Oh, keep me! Lord of the hosts of old, Creator of fire and wind, Oh, keep me! On the terrible field of battle, Defend, Heavenly Father, While battling against treachery, Oh, keep me! Defend, Sovereign Lord, On land and the wide sea, Oh, keep me! While fighting for my country, Overcome the assault and the treachery, Give thy protection, O heavenly Father, Oh, keep me! Part II If I perish in my blood, My cry to God, oh, let it go, Oh, receive me! In the cold waters of the vale, Through the merit of Calvary hill, My prayer at that time Shall be, Receive me! To the quiet Paradise evermore, Above the war of terror and wound, Oh, receive me! Where there shall be neither gun nor sword, Nor tears, pain, nor grave, A blessed land, the eternal place of peace, Oh, receive me!tr. 2015 Richard B Gillion |
|