O âr y ddaear yn ddiau - ni gawn Eginyn a blodau; Er hyn, ein hedyn i'w hau Ollyngir yn llaw angau. Yn lôn, pan ddelo'r ennyd, - ar ddiwedd O'r ddaear a'n cyfyd; Bydd dorau beddau y byd, Ar un gair, yn agoryd. Oer len ei farwol annedd - o'i ogylch A egyr ar ddiwedd; Daw'r afrifawl dorf ryfed, Feirwon byd, i farn o'u bedd. Pob hedyn a fyn efe - o'r dulawr A'r dylif i'r frawdle; Cywir gesglir o'r gysgle Lychyn a lychyn i'w le. Ar fyr, wedi hir fawredd, - diaros Daw eraill i'th annedd; A thi, ŵr, yn noeth orwedd Dan y baich du yn y bedd. O'i flodau borau bwriwyd - i oerfedd, A'i yrfa orffenwyd; Teg loywddyn, ai ti gladdwyd? Amau'r ŷm ai yma'r wyd! |
From the ploughed ground of earth undoubtedly - we get A shoot and flowers; Despite this, our seed to be sown Is lost in the hand of death. Sharply, when the short spell comes, - to an end From the earth we shall rise; The doors of the world's graves shall be, At one word, opened. The cold curtain of his mortal dwelling - around him Shall open at last; The immeasurable, wonderful throng shall come, A world's dead, to judgment from their grave. Every seed he shall demand - from the black ground And the torrent to the judgment-seat; Truly to be gathered from the place of sleep Dust-mote and dust-mote to his place. Shortly, after long greatness, - unwaiting Shall come others to thy dwelling; And thou, man, nakedly lying Under the black burden in the grave. From his morning flowers he was cast - to a cold grave, And his course was finished; A fair, gay man, wast thou buried? Doubt, we do, whether here thou art! tr. 2017 Richard B Gillion |