Ac yna Moesen enau mêl, Ac Israel oll ar g'oedd, Canasant am y llwyddiant llawn, Bu flasus iawn y floedd; A llafarasant oll un fryd, Gan dd'wedyd âg un ddawn, I'r Arglwydd canaf, canys gwnaeth Yn odiaeth, odiaeth iawn; Ni bu cyffelyb i'w coffâu, I fawrion wyrthiau'r Iôr, Yn taflu'r march dihafarch hŷf, A'r marchog crŷf i'r môr. Fy nerth a'm cân am lydan lwydd Yw'r Arglwydd mawr ei rym, Mi ogoneddaf Dduw a'm gwnaeth, Sydd iachawdwriaeth im'. Duw yw fy Nhad, wyf yn ei hedd, Yn llawn gorfoledd faith; Dyrchafaf ef, dra chofiwyf, hyd Fy mywyd am ei waith. Yr Arglwydd sydd ryfelwr fyth, Iôn dilyth pwy a'm dawr? Yr Arglwydd yw ei enw ef, Duw lluoedd nef a llawr: Fe daflodd fydin Pharao'n fud, O dan y ddyfrllyd ddôr, A holl gerbydau y gwr balch, Grymus-falch dîg i'r môr. Ei ben cadpeniaid cwympwyd hwy, Tra'n tramwy'n fawr eu trwst, Dan dònau cauad y Môr côch, Wyr ffrôch oedd fawr eu ffrwst: Dyfnderau'r llîf a'i toisant hwy, Rhuadwy oedd eu rhôch, Disgynai'r bradwyr hyn mewn brêg, Mal careg i'r Môr côch. Dy ddeheu law trag'wyddol yw, O Dduw! pob nerth a ddwg, Dy ddïaleddol ddeheu law Fu'n drylliaw'r gelyn drwg, Yn mawredd d'odidawgrwydd doeth, Drwy ddïaledd noeth yn awr, I'th wrthwynebwyr, gwawdwyr gynt, - Dilëaist hwynt i lawr. Anfonaist dy ddigofaint du, Er gwarth i ysu'r gwyr, Yn ail i soflyn neu lâs wellt Tan ddyrnod mellt, neu ddûr. Gan chwyth dy ffroenau 'mdyrai'r dŵr, Fel rhyw ddau bentwr ban, Y deifr rhuadwy ar eu hynt, Dylenwynt rhwng dwy làn: Ymgaslglu dan lonydd'n awr, Wnai'r ffrydiau mawr eu ffrwst, Dyfnderau'n ceulo oedd i'w cael, Er maint eu traul a'u trwst. Dywedai'r gelyn dîg ar g'oedd, (Ei bobl oedd ddi byd,) "Erlidiaf, goddiweddaf hwynt, Câf arnynt fy ngwyn fyd; Myfi anrheithiaf yn fy rhwysg, Ys camrwysg, megys cynt, Fy nghleddyf ei ddynoethi wnâf. A'm llaw dyfethaf hwynt." Uwch muriau cedyrn y Môr côch Y chwythaist a'th grôch wynt, Holl gronfa, ymarllwysga'r llîf, Tew ddylif a'u tô'dd hwynt: O tano soddent yn eu swm, Fal plwm, mor drwm eu drych! Dan bwys y dyfroedd, îs y dòn, A'r trochion creision crych. O, pwy sydd megys f'Arglwydd mau, Yn mysg y duwiau mân, Yn sanctaidd ogoneddus Dduw, Ein Glyw a'n Brenin glân; Ofnadwy mewn pob moliant maith, Am berffaith waith yn wir, Yn gwneuthur gwyrthiau maith ar g'oedd Eithafoedd môr a thir? Estynaist dy ddeheulaw hardd Draw ar y ddaear ddofn, A hon a'u llyngcodd hwy yn llwyr, Pan oedd rhy hwyr eu hofn. Arweinaist mewn trugaredd gu, Gan eu gwaredu'n gryf, Dy bobl - â'th nerth tywysaist hwy, Mewn modd ofnadwy'n hyf, I'th annedd le, sancteiddiol yw, Dy drigfan ydyw'n wir; Y bobloedd clywant, ofnant hyn, Bydd dychryn tryw'r holl dir: Bydd ing a dolur mawr yn dal Hen Balestina bell; Tra syna'r ffriw-falch ddugiaid ffrom Yn mharthau Edom hell: A meib didrechu Moab draw, Gan ofn a braw heb rym; Preswylwyr Canaan ymaith ânt, Llwyr doddant oll i'r dim; Syrth arnynt ofn ac arswyd hir, Hwy flingir o dy flaen, Gan rym dy fraich y tawant hwy, Heb yngan mwy na maen. Nes yr êl gweddill Israel gu Oll drwyodd yn llu draw, Y bobl ynnillaist ti, O Nâf, A galluocaf law: Dydi a'u dygi, Dad y dawn, I mewn ryw uniawn awr, A phleni hwynt yn mynydd maeth Dy etifeddiaeth fawr; Y tŷ a wnaethost it', Iôn ne', Yn annedd le'n ddi lyth, Y cyssegr a sancteiddiaist ti, Lle y pabelli byth. Yr Arglwydd a deyrnasa'n wir, Ei faingc ni syflir fyth; Fe lywodraetha ei bobl, drwy Ddyladwy ddeddf ddi lyth: O herwydd meirch hen Pharao ffol, Ddewisol rymiol rai, A holl gerbydau goreu'r bôn, Gyd a'u marchogion chwai, A aethant i'r terfysglyd fôr, Draphlith yn hoywdorf fflôch; Dychwelwyd arnynt uchel dòn Yr eigion a'u mawr rôch: Ond meibion Israel bawb un wedd, Er llesgedd yr holl lu, Dïaros aethant ar dir sych, Trwy'r dyfngrych eigion du. A Miriam y brophwydes, hon, Chwaer Aaron wych o ryw, A thympan yn ei law yn llon, Addolai'r ffyddlon Dduw; A'r gwragedd heini ar ei hol, Yn hollol gyda hi, A dawnsiau a thympanau pêr, Oedd offer seinbêr sî: Dywedai Miriam dafod mêl, Iaith dawel wrthynt hwy, "I'r Iôn dolefwch ganiad lon, Fal meibion Israel mwy: Oblegid gwnaeth yn odiaeth iawn, Ofnadwy gyfiawn Iôr, Yn bwrw'r march, gweryr-farch crŷf, A'r marchog hŷf i'r môr." |
And then Moses of a sweet mouth, An all Israel publicly, Sang about the full success, Very pleasant was the shout; And they all spoke of one mind, Saying with one talent, To the Lord I will sing, since he did Excellently, very excellently; Never was the like to commemorate, To the great miracles of the Sovereign, Throwing the haughty, bold stallion, And the strong rider into the sea. My strength and my song for broad success Is the Lord of great force, I will glorify God who made me, Who is salvation to me. God is my Father, I am in his peace, In full, vast jubilation; I will exalt him, while I remember, all My life long for his work. The Lord is a warrior forever, An unfailing Lord who will break me? The Lord is his name, The God of the hosts of heaven and earth: He threw the army of Pharoah mute, Under the watery door, And all the chariots of the proud man, Proud in force, irate, into the sea. His chief captains they were fallen, While traversing great their uproar, Under the waves of the covering of the Red Sea, Furious men who were in great haste: The depths of the flood roofed them, Noisy was their roaring, These traitors would descend in deceit, Like a stone into the Red Sea. Thy right hand is eternal, O God, every strength it will bring, Thy avenging right hand Which smashed the evil enemy, In the majesty of thy wise superiority, Through naked vengeance now, To thy opposers, mockers of old, - Thou didst overthrow them. Thou didst send thy black wrath, For the disgrace to consume the men, Just like a straw or green grass under the bolt of lightning, or steel. With the puff of thy nostrils the water would pile up, Like some pair of summit stacks, The roaring waters on their course, They flooded in between two banks: Gather gladly now, Would the streams of great haste, Depths congealing were to be had, Despite their tearing and their din. The irate enemy would say publicly, (His people were heedless,) "I will pursue, I will overtake them, I will get my way over them; I shall plunder in my power, It is presumption, like before, My sword, denude it I shall. With my hand I will destroy them." Above the firm walls of the Red Sea Thou didst blow with thy vociferous wind, All the reservoir, the flood would pour out, A thick torrent which drowned them: Under it they sank in their totality, Like lead, how heavy their condition! Under the weight of the waters, under the wave, And the rough, rippling foam. Oh, who is like my Lord, Amongs the small gods, A holy, glorious God, Our Chieftain and our holy King; Terribl in every vast praise, For a perfect work truly, Doing vast miracles publicly to The extremities of sea and land? Thou didst extend thy beautiful right hand Yonder over the deep earth, And this swallowed them completely, When their fear was too late. Thou didst guide in dear mercy, While delivering them strongly, Thy people - with thy strength thou didst lead them, In a manner terribly boldly, To thy dwelling place, sacred it is, Thy residence it is truly; The peoples hear, they fear this, There will be terror throughout the whole land: There will be anguish and great sadness holding The old, distant Palestine; While fierce, headstrong generals will marvel In the regions of foul Edom: And the invincible sons of Moab yonder, With fear and terror without force; The inhabitants of vast Canaan they go, Completely they set all to nought; Fear fell upon them and long horror, They are to be flayed before thee, By the force of thy arm they are silent, Without any more utterance than a stone. Until the rest of dear Israel all Go through as a host yonder, The people thou didst gain for thyself, O Master, With a most powerful hand: It is thou who wilt lead them, Father of the gift, In some upright hour, And wilt plant them in a mountain of nourishment Thy great inheritance; The house thou hast made for thyself, Sovereign of heaven, A dwelling place unfailing, The sanctuary thou hast sanctified, Where thou wilt camp forever. The Lord shall reign truly, His throne is never to be moved; He will govern his people, through An accountable, unfailing law: Because the stallion of old, foolish Pharaoh, Select, forceful ones, And all chariots of the best base, With their swift riders, Which went into the tumultuous sea, Disorderly as a numerous lively host; A high wave returned over them The ocean and its great rumbling: But the sons of Israel all of one condition, Despite the feebleness of the whole host, Unwaiting went on dry land, Through the deeply rippling, black ocean. And Miriam the prophetess, she, The sister of Aaron of a brilliant kind, With a tambourin in her hand cheerfully, Would worship the faithful God; And the fit women after her, Completely with her, With dances and sweet tambourines, Which were instruments of a sweetly-sounding buzz: Miriam of a melifluous tongue would say, In a quiet language to them, "To the Sovereign shout out in a cheeful song, Like the sons of Israel henceforth: Because he did very excellently, A terrible, righteous Sovereign, Casting the horse, the strong courser, And the bold rider into the sea." tr. 2015 Richard B Gillion |
|