Un ohonoch, adar cerdd, Yw fy ngalon innau, Pan y cwsg y glaswyrddlwyn Uwch ei fil cysgodau; Pan fo wyneb môr a nef Fel pe am y glasaf, - Gwae aderyn gân cyn pryd, Gwae na chân Orffennaf. Oni waered y fro yn ardd Heb yr un diffeithwch? A phob gardd o fewn y fro 'N wyllt-dir o bryderthwth? Fel y glöyn, claf o serch Yw fy nghalon innau; Gwn pa beth yw cael fy nal Yn nyrysni'r blodau. Chwa Gorffennaf ddaw i'm t&375; Yn y bore melys, Gyda neithdar maes a môr Ar ei lleithiog wefus; Onid merch y môr a'r maes Yw fy ghalon innau? Câr fugeilio'r gwenith gwyn, Câr gyfeillach tonnau. |
One of you, song birds, Is my own heart, When the green grove sleeps Above its thousand shadows; Whenever the face of sea and heaven is As if at its bluest, - Oh for a bird of song before time, Oh for the song of July. Is not the bottom of the vale a garden Without any desert? And every garden within the vale A wilderness of beauty? Like the butterfly, love-sick Is my own heart; I know what it is to get held In the tangle of the flowers. The breath of July comes to my house In a sweeet morning, With the nectar of field and sea On its moist lip; Is not the daughter of the sea and the field My own heart? A lover to tend the white wheat, A lover of the friendship of waves. tr. 2015 Richard B Gillion |
|