Gwreichionen dān anadliad Duw Ymād o'r babell 'rwyt yn byw; Er rhoddi'r corph drwy loes i lawr, Marwolaeth sydd yn fendith fawr: Na rwgnach gnawd, - drwy lesmair gād, I minnau hedeg i'r mywnhad! Mae sain llawenydd uwch y llawr, Trigolion nef yn galw yn awr: I boen a gofid cān yn iach; Ce'i newid byd, cu enaid bach: Ni ddaw na phechod, cur na phoen I fewn i lŷs y nefol Oen. 'Rwy'n d'od ar frys o'r babell frau, 'Rwy'n teimlo'r anadl yn byrhau: Pa beth yw hwn sy'n dylu'r wawr? Mae'n gwasgu f'ysbryd llesg i lawr: Mae'n boddi' synwyr - dwyn y clyw, O enaid mau, a'i angau yw? Yn iach i'r byd, - mi glywa' eich llef, Seraphiaid, heirdd anwyliaid nef; Wrth nerth eich eurwych edyn chwi I fyd anfarwl hedaf fi: Nid ofnaf loesau angau llym, Mewn gafael llaw mae'n gyfaill i'm! David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 [Mesur: 88.88.88] |
Sparks of the fire of God's breath Shall leave the tent in which thou art living; Although bringing the body through anguish down, Death is a great blessing: Nor grumble flesh, - by fainting, let Me fly to my enjoyment! There is a sound of joy above the earth, The inhabitants of heaven calling now: To pain and grief farewell; Thou wilt get a new world, dear little soul: No sin shall come, wound nor pain Within the court of the heavenly Lamb. I am coming quickly from the fragle tent, I am feeling the breath shortening: What is this that is treading the dawn? It is squeezing my feeble spirit down: It is drowning sense - bringing the disease, O my soul, is it death? Farewell to the world, - I hear your cry, Seraphim, splendid beloved ones of heaven; By the strength of your golden wings To an immortal world I fly: I shall not fear the pangs of sharp death, In a hand's grasp it is a friend to me! tr. 2017 Richard B Gillion |
|